Eseciel 43
43
Ysblander Duw yn dod yn ôl#gw. Eseciel 10
1Yna aeth â fi at y giât oedd yn wynebu’r dwyrain. 2Yno gwelais ysblander Duw Israel yn dod o gyfeiriad y dwyrain. Roedd ei sŵn yn debyg i sŵn rhaeadr ac roedd ei ysblander yn goleuo’r ddaear i gyd. 3Roedd yr un fath â’r weledigaeth ges i pan ddaeth e i ddinistrio’r ddinas, a’r un pan oeddwn i wrth Gamlas Cebar. Dyma fi’n mynd ar fy wyneb ar lawr. 4A dyma ysblander yr ARGLWYDD yn mynd yn ôl i mewn i’r deml drwy’r giât oedd yn wynebu’r dwyrain. 5Yna cododd yr ysbryd fi a mynd â fi i’r iard fewnol. A dyna lle roeddwn i yn syllu ar ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi’r deml.
6A dyma fi’n clywed llais yn siarad â mi o adeilad y deml. (Roedd y dyn yn dal i sefyll wrth fy ymyl i.) 7Dwedodd y llais: “Ddyn, dyma lle mae fy ngorsedd i a’r lle i mi orffwys fy nhraed. Bydda i’n byw yma gyda phobl Israel am byth. Fydd pobl Israel a’u brenhinoedd ddim yn sarhau fy enw sanctaidd i eto drwy eu puteindra ysbrydol na thrwy godi cofgolofnau i’w brenhinoedd pan fyddan nhw’n marw. 8Wrth adeiladu eu palasau drws nesa i’m teml i, gyda dim byd ond wal denau yn eu gwahanu nhw, roedden nhw’n sarhau fy enw sanctaidd i drwy’r pethau ffiaidd roedden nhw’n eu gwneud. Felly dyma fi’n eu difa nhw pan oeddwn i’n ddig. 9Ond nawr rhaid i’r puteinio ysbrydol stopio a rhaid i’r cofgolofnau brenhinol fynd, ac wedyn bydda i’n byw gyda nhw am byth.
10“Beth dw i eisiau i ti ei wneud, ddyn, ydy disgrifio’r deml rwyt ti wedi’i gweld i bobl Israel, er mwyn iddyn nhw fod â chywilydd o’u pechod. Gwna iddyn nhw astudio’r cynllun yn fanwl 11wedyn bydd ganddyn nhw gywilydd go iawn o beth wnaethon nhw. Dangos gynllun y deml i gyd iddyn nhw – pob mynedfa a drws, y cyfarwyddiadau a’r rheolau i gyd. Tynna lun manwl o’r cwbl iddyn nhw, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn deall y cynllun ac yn cadw’n ffyddlon ato.
12“A dyma beth sydd raid ei ddeall am y deml – mae’n hollol sanctaidd! Mae top y mynydd i gyd, lle mae’r deml i gael ei hadeiladu, wedi’i gysegru’n llwyr. Mae hon yn egwyddor gwbl sylfaenol.”
Yr Allor
13“A dyma fesuriadau’r allor: Mae ei gwter i fod yn bum deg dwy centimetr a hanner o ddyfnder ac yn bum deg dwy centimetr a hanner o led, gydag ymyl o tua dau ddeg centimetr o’i chwmpas. Uchder yr allor ei hun 14o’r llawr i’r sil isaf yn un metr, a lled y sil yn bum deg dwy centimetr a hanner. Yna o’r sil gyntaf i’r ail sil, mae’n ddau fetr arall, a lled y sil honno eto yn bum deg dwy centimetr a hanner. 15Wedyn mae top yr allor yn ddau fetr arall eto, gyda corn yn codi o’r pedair cornel. 16Mae top yr allor ei hun yn chwe metr a chwarter o hyd a chwe metr a chwarter o led, 17gyda sil sy’n ei gwneud yn saith metr a chwarter bob ffordd. Mae’r ymyl yn ddau ddeg chwech centimetr gyda gwter bum deg dau centimetr a hanner o led o’i chwmpas. Mae’r grisiau yn mynd i fyny ati o’r ochr ddwyreiniol.”
Yr offrymau
18Wedyn dyma fe’n dweud, “Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dyma’r rheolau am yr offrymau i’w llosgi a’r gwaed sydd i’w sblasio ar yr allor pan fydd wedi’i hadeiladu. 19Rhaid rhoi tarw ifanc yn offrwm i lanhau o bechod i’r offeiriaid o lwyth Lefi sy’n ddisgynyddion Sadoc ac sy’n dod ata i i’m gwasanaethu i. 20Dylid cymryd peth o’r gwaed a’i roi ar bedwar corn yr allor, ar bedair cornel y sil a reit rownd yr ymyl. Bydd yn ei gwneud yn lân ac yn iawn i’w defnyddio. 21Wedyn rhaid cymryd corff y tarw sy’n offrwm i lanhau o bechod a’i losgi yn y lle iawn tu allan i’r cysegr.
22“‘Yna ar yr ail ddiwrnod rhaid offrymu bwch gafr sydd â dim o’i le arno yn offrwm i lanhau o bechod. Byddan nhw’n glanhau yr allor, fel y gwnaethon nhw cyn offrymu’r tarw. 23Ar ôl ei glanhau, rhaid offrymu tarw ifanc sydd â dim byd o’i le arno a hefyd hwrdd sydd â dim byd o’i le arno. 24Rhaid eu cyflwyno’n offrwm i’r ARGLWYDD. Bydd yr offeiriaid yn taenu halen arnyn nhw, ac yna eu rhoi nhw’n offrwm i’w losgi’n llwyr i’r ARGLWYDD.
25“‘Rwyt i gyflwyno bwch gafr bob dydd am saith diwrnod, yn offrwm i lanhau o bechod, a hefyd tarw ifanc a hwrdd, y ddau yn anifeiliaid heb unrhyw beth o’i le arnyn nhw. 26Am saith diwrnod byddan nhw’n gwneud yr allor yn lân ac yn iawn i’w defnyddio. Dyna sut mae’r allor i gael ei chysegru. 27Ar ôl gwneud hynny, o’r wythfed diwrnod ymlaen bydd yr offeiriaid yn gallu cyflwyno offrymau i’w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni’r ARGLWYDD; a bydda i’n eich derbyn chi,’ meddai’r Meistr, yr ARGLWYDD.”
Dewis Presennol:
Eseciel 43: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023