Wrth i mi edrych, rôn i’n gweld storm yn dod o’r gogledd. Roedd cwmwl anferth, a mellt yn fflachio, a golau llachar o’i gwmpas. Roedd ei ganol yn llachar fel tân mewn ffwrnais fetel. Yna o’i ganol dyma bedwar ffigwr yn dod i’r golwg. Roedden nhw’n edrych fel creaduriaid byw. Roedden nhw yr un siâp a phobl, ond roedd gan bob un bedwar wyneb a phedair adain. Roedden nhw’n sefyll i fyny’n syth fel pobl, ond carnau llo oedd eu traed. Ac roedden nhw’n gloywi fel pres wedi’i sgleinio. Roedd ganddyn nhw freichiau a dwylo dynol o dan eu hadenydd, ac roedd eu hadenydd nhw’n cyffwrdd ei gilydd. Am fod ganddyn nhw bedwar wyneb, doedden nhw ddim yn troi, dim ond symud yn syth yn eu blaenau i ba gyfeiriad bynnag roedden nhw’n mynd.
Darllen Eseciel 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseciel 1:4-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos