Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 40

40
Codi a chysegru’r Tabernacl
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2“Ar ddiwrnod cynta’r flwyddyn#40:2 flwyddyn Hebraeg, “mis cyntaf”, sef Abib (sydd hefyd yn cael ei alw yn Nisan). Mis cyntaf y calendr Hebreig sy’n rhedeg o tua canol Mawrth i ganol Ebrill. rwyt i godi’r Tabernacl – pabell presenoldeb Duw. 3Rho Arch y dystiolaeth ynddi, gyda’r sgrîn o’i blaen yn cuddio’r Arch. 4Yna dod â’r bwrdd i mewn, a gosod popeth mewn trefn arno. Wedyn y menora, a gosod ei lampau yn eu lle arni. 5Rho’r allor aur (allor yr arogldarth) o flaen Arch y dystiolaeth, a sgrîn wrth y fynedfa i’r Tabernacl. 6Yna gosod yr allor i losgi’r offrymau o flaen y fynedfa i’r Tabernacl, pabell presenoldeb Duw. 7Rho’r ddysgl fawr rhwng pabell presenoldeb Duw a’r allor, a’i llenwi â dŵr. 8Yna gosod yr iard o’i chwmpas, a hongian llenni mynedfa’r iard.
9“Wedyn cymer yr olew eneinio, a’i daenellu ar y Tabernacl a phopeth sydd ynddi, i’w cysegru a’u gwneud yn sanctaidd. 10Eneinia’r allor i losgi’r offrymau a’i hoffer i gyd. Cysegra’r allor i’w gwneud hi’n gwbl sanctaidd. 11Yna eneinia’r ddysgl fawr a’i stand, i’w chysegru hi.
12“Wedyn rwyt i ddod ag Aaron a’i feibion at fynedfa pabell presenoldeb Duw a’u golchi nhw â dŵr. 13Arwisga fe gyda’r gwisgoedd cysegredig, a’i eneinio a’i gysegru i wasanaethu fel offeiriad i mi. 14Wedyn arwisga’r meibion yn eu crysau, 15a’u heneinio nhw fel gwnest ti eneinio eu tad, iddyn nhw wasanaethu fel offeiriaid i mi. Drwy eu heneinio ti’n rhoi’r cyfrifoldeb iddyn nhw o wasanaethu fel offeiriaid i mi ar hyd y cenedlaethau.”
16Felly dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. 17Cafodd y Tabernacl ei godi ar ddiwrnod cynta’r ail flwyddyn.#40:17 ail flwyddyn Digwyddodd hyn flwyddyn union ar ôl dod allan o’r Aifft. 18Dyma Moses yn ei godi drwy roi’r socedi yn eu lle, yna codi’r fframiau, cysylltu’r croesfarrau a rhoi’r polion yn eu lle. 19Wedyn dyma fe’n lledu’r babell dros fframwaith y Tabernacl, a’r gorchudd dros hwnnw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
20Yna dyma fe’n gosod Llechi’r Dystiolaeth yn yr Arch, cysylltu’r polion iddi a rhoi’r caead arni. 21Wedyn mynd â’r Arch i’r Tabernacl a gosod llen y sgrîn o’i blaen, i guddio Arch y Dystiolaeth, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
22Wedyn dyma fe’n gosod y bwrdd tu mewn i babell presenoldeb Duw, ar ochr ogleddol y Tabernacl, o flaen y sgrîn. 23A gosod y bara mewn trefn ar y bwrdd, o flaen yr ARGLWYDD, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
24Wedyn gosod y menora tu mewn i babell presenoldeb Duw, gyferbyn â’r bwrdd ar ochr ddeheuol y Tabernacl. 25Yna gosod y lampau yn eu lle arni, o flaen yr ARGLWYDD, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
26Wedyn rhoi’r allor aur (allor yr arogldarth) tu mewn i babell presenoldeb Duw, o flaen y sgrîn, 27a llosgi arogldarth persawrus arni, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
28Wedyn gosod y sgrîn wrth y fynedfa i’r Tabernacl. 29Rhoddodd yr allor i losgi’r offrymau o flaen y fynedfa i’r Tabernacl hefyd, sef pabell presenoldeb Duw. Yna cyflwyno offrymau i’w llosgi ac offrymau o rawn arni fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
30Wedyn gosod y ddysgl fawr rhwng pabell presenoldeb Duw a’r allor, a’i llenwi hi â dŵr ar gyfer ymolchi. 31Byddai Moses ac Aaron a’i feibion yn golchi eu dwylo a’u traed gyda’r dŵr ynddi. 32Bydden nhw’n ymolchi bob tro roedden nhw’n mynd i mewn i babell presenoldeb Duw neu’n mynd at yr allor, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
33Wedyn dyma fe’n gosod yr iard o gwmpas y Tabernacl a’r allor, a rhoi’r sgrîn o flaen y fynedfa i’r iard. Felly dyma Moses yn gorffen y gwaith.
Y cwmwl dros babell presenoldeb Duw
(Numeri 9:15-23)
34A dyma’r cwmwl yn dod i lawr dros babell presenoldeb Duw, ac roedd ysblander yr ARGLWYDD yn ei llenwi (sef y Tabernacl). 35Doedd Moses ddim yn gallu mynd i mewn i’r babell o achos y cwmwl oedd wedi setlo arni, ac am fod ysblander yr ARGLWYDD yn ei llenwi. 36Pan oedd y cwmwl yn codi oddi ar y Tabernacl, roedd pobl Israel yn mynd ymlaen ar eu taith. 37Os nad oedd y cwmwl yn codi, doedden nhw ddim yn symud o’u lle. 38Roedd cwmwl yr ARGLWYDD ar y Tabernacl yn ystod y dydd, ac roedd tân yn y cwmwl drwy’r nos. Roedd pobl Israel i gyd yn gallu ei weld, yr holl amser buon nhw’n teithio.

Dewis Presennol:

Exodus 40: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda