Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 35

35
Rheolau’r Saboth
1Dyma Moses yn galw pobl Israel i gyd at ei gilydd, a dweud, “Dyma mae’r ARGLWYDD wedi’i orchymyn i chi ei wneud:
2“Mae yna chwech diwrnod i chi allu gweithio, ond mae’r seithfed diwrnod yn sbesial, yn ddiwrnod cysegredig, yn Saboth i’r ARGLWYDD – diwrnod i chi orffwys. Os ydy rhywun yn gweithio ar y Saboth, y gosb ydy marwolaeth. 3Peidiwch hyd yn oed cynnau tân yn eich cartrefi ar y Saboth!”
Offrymau i adeiladu’r Tabernacl
(Exodus 25:1-9; 35:10-19; 39:32-43)
4Wedyn dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel i gyd, “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei orchymyn. 5‘Dylai pawb sy’n awyddus i gyfrannu ddod â rhoddion i’r ARGLWYDD: aur, arian, pres, 6edau las, porffor a coch, lliain main drud, blew gafr, 7crwyn hyrddod wedi’u llifo’n goch, crwyn môr-fuchod, coed acasia, 8olew i’r lampau, perlysiau i wneud yr olew eneinio a’r arogldarth persawrus, 9onics a gemau eraill i’w gosod ar yr effod a’r boced fydd yn mynd dros y frest. 10Mae’r crefftwyr yn eich plith chi i ddod a gwneud popeth mae’r ARGLWYDD wedi’i orchymyn:
11Y Tabernacl, gyda’r babell a’i gorchudd, y bachau, y fframiau, y trawstiau, y polion a’r socedi.
12Yr Arch a’i pholion, y caead drosti, a’r sgrîn sy’n ei chuddio.
13Y bwrdd, gyda’i bolion a’i lestri, i osod y bara cysegredig arno.
14Y menora sy’n rhoi golau, gyda’i hoffer i gyd, y lampau a’r olew.
15Allor yr arogldarth gyda’i pholion, yr olew eneinio a’r arogldarth persawrus.
Y sgrîn ar gyfer y fynedfa i’r Tabernacl.
16Yr allor ar gyfer yr offrymau sydd i’w llosgi, y gratin bres sydd arni, y polion, a’r holl offer sy’n mynd gyda hi.
Y ddysgl fawr gyda’i stand.
17Llenni’r iard, y polion a’r socedi, a’r sgrîn sydd o flaen y fynedfa i’r iard.
18Pegiau a rhaffau’r Tabernacl a’r iard.
19Hefyd gwisgoedd y rhai fydd yn gwasanaethu yn yr addoliad yn y lle sanctaidd (i gyd wedi’u brodio’n hardd), gwisgoedd cysegredig Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion fydd hefyd yn gwasanaethu fel offeiriaid.’”
Rhoddion i’r ARGLWYDD
20Yna dyma bobl Israel i gyd yn mynd i ffwrdd. 21Ond daeth rhai, oedd wedi’u sbarduno, ac yn awyddus i gyfrannu, yn ôl a chyflwyno eu rhoddion i’r ARGLWYDD – rhoddion tuag at godi pabell presenoldeb Duw, cynnal y gwasanaeth ynddi, a tuag at y gwisgoedd cysegredig. 22Dyma pawb oedd yn awyddus i roi yn dod – dynion a merched. A dyma nhw’n cyfrannu tlysau aur o bob math – broetshis, clustdlysau, modrwyau a breichledau. Roedd pawb yn dod ac yn cyflwyno’r aur yn offrwm i’w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. 23Roedd eraill yn dod ag edau las, porffor neu goch, lliain main drud, blew gafr, crwyn hyrddod wedi’u llifo’n goch, neu grwyn môr-fuchod. 24Roedd pawb oedd eisiau rhoi arian neu bres yn ei gyflwyno yn offrwm i’r ARGLWYDD. Roedd eraill yn dod ag unrhyw goed acasia oedd ganddyn nhw. 25Roedd y gwragedd oedd â dawn nyddu yn dod â’r defnydd roedden nhw wedi’i wneud – edau las, porffor neu goch, neu liain main drud. 26Roedd gwragedd eraill wedi’u hysgogi i fynd ati i nyddu defnydd wedi’i wneud o flew gafr.
27Dyma’r arweinwyr yn rhoi cerrig onics a gemau eraill i’w gosod ar yr effod a’r boced fyddai’n mynd dros y frest. 28Hefyd perlysiau ac olew olewydd ar gyfer y lampau, yr olew eneinio a’r arogldarth persawrus. 29Felly, daeth pobl Israel ag offrymau gwirfoddol i’r ARGLWYDD – dynion a merched oedd yn awyddus i helpu i wneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddyn nhw ei wneud drwy Moses.
Betsalel ac Oholiab
(Exodus 31:1-11)
30Dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel, “Mae’r ARGLWYDD wedi dewis Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda. 31Mae wedi’i lenwi gydag Ysbryd Duw, sy’n rhoi dawn, deall a gallu iddo, i greu pob math o waith cywrain, 32a gwneud pethau hardd allan o aur, arian a phres. 33I dorri a gosod gemwaith, i gerfio coed ac i wneud pob math o waith artistig. 34Mae Duw wedi rhoi’r ddawn iddo fe, ac i Oholiab fab Achisamach o lwyth Dan, i ddysgu eu crefft i eraill. 35Mae Duw wedi rhoi’r doniau i’r rhai hynny i weithio fel crefftwyr ac artistiaid, i frodio lliain main gydag edau las, porffor a coch, ac i wneud gwaith gwehydd – pob un yn feistri yn eu crefft ac yn artistiaid.

Dewis Presennol:

Exodus 35: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda