Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 2:11-22

Exodus 2:11-22 BNET

Flynyddoedd wedyn, pan oedd Moses wedi tyfu’n oedolyn, aeth allan at ei bobl, a gweld fel roedden nhw’n cael eu cam-drin. Gwelodd Eifftiwr yn curo Hebrëwr – un o’i bobl ei hun! Ar ôl edrych o’i gwmpas i wneud yn siŵr fod neb yn ei weld, dyma fe’n taro’r Eifftiwr a’i ladd, a chladdu ei gorff yn y tywod. Pan aeth allan y diwrnod wedyn, gwelodd ddau Hebrëwr yn dechrau ymladd gyda’i gilydd. A dyma Moses yn dweud wrth yr un oedd ar fai, “Pam wyt ti’n ymosod ar dy ffrind?” A dyma’r dyn yn ei ateb, “Pwy sydd wedi rhoi’r hawl i ti ein rheoli ni a’n barnu ni? Wyt ti am fy lladd i fel gwnest ti ladd yr Eifftiwr yna?” Roedd Moses wedi dychryn, a meddyliodd, “Mae’n rhaid bod pobl yn gwybod beth wnes i.” A dyma’r Pharo yn dod i glywed am y peth, ac roedd am ladd Moses. Felly dyma Moses yn dianc oddi wrtho a mynd i wlad Midian. Pan gyrhaeddodd yno, eisteddodd wrth ymyl rhyw ffynnon. Roedd gan offeiriad Midian saith merch, a dyma nhw’n dod at y ffynnon, a dechrau codi dŵr i’r cafnau er mwyn i ddefaid a geifr eu tad gael yfed. Daeth grŵp o fugeiliaid yno a’u gyrru nhw i ffwrdd. Ond dyma Moses yn achub y merched, ac yn codi dŵr i’w defaid nhw. Pan aeth y merched adre at eu tad, Reuel, dyma fe’n gofyn iddyn nhw, “Pam dych chi wedi dod adre mor gynnar heddiw?” A dyma nhw’n dweud wrtho, “Daeth rhyw Eifftiwr a’n hachub ni rhag y bugeiliaid, ac yna codi dŵr i’r praidd.” A dyma fe’n gofyn i’w ferched, “Ble mae e? Pam yn y byd wnaethoch chi adael y dyn allan yna? Ewch i’w nôl, a gofyn iddo ddod i gael pryd o fwyd gyda ni.” Cytunodd Moses i aros gyda nhw, a dyma Reuel yn rhoi ei ferch Seffora yn wraig iddo. Wedyn dyma nhw’n cael mab, a dyma Moses yn rhoi’r enw Gershom iddo – “Mewnfudwr yn byw mewn gwlad estron ydw i,” meddai.