Dyma’r peth olaf sydd i’w ddweud: Byddwch yn gryf, a chael eich nerth gan yr Arglwydd a’r pŵer aruthrol sydd ganddo fe. Mae Duw wedi paratoi arfwisg i chi ei gwisgo yn y frwydr. Byddwch chi’n gallu gwneud safiad yn erbyn triciau slei y diafol. Dŷn ni ddim yn ymladd yn erbyn pobl. Mae’n brwydr ni yn erbyn y bodau ysbrydol sy’n llywodraethu, sef yr awdurdodau a’r pwerau tywyll sy’n rheoli’r byd yma; y fyddin ysbrydol ddrwg yn y byd nefol. Felly gwisgwch yr arfwisg mae Duw’n ei rhoi i chi, er mwyn i chi ddal eich tir pan fydd pethau’n ddrwg, a dal i sefyll ar ddiwedd y frwydr. Safwch gyda gwirionedd wedi’i rwymo fel belt am eich canol, cyfiawnder Duw yn llurig amdanoch, a’r brwdfrydedd i rannu’r newyddion da am heddwch gyda Duw yn esgidiau ar eich traed.
Darllen Effesiaid 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Effesiaid 6:10-15
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos