Dw i hefyd am i chi sylweddoli mor anhygoel ydy’r nerth sydd ar gael i ni sy’n credu. Dyma’r pŵer aruthrol wnaeth godi’r Meseia yn ôl yn fyw a’i osod i eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw yn y byd nefol. Mae’n llawer uwch nag unrhyw un arall sy’n teyrnasu neu’n llywodraethu, ac unrhyw rym neu awdurdod arall sy’n bod. Does gan neb na dim deitl tebyg iddo – yn y byd yma na’r byd sydd i ddod! Mae Duw wedi rhoi popeth dan ei awdurdod. Mae wedi’i wneud e yn ben ar y cwbl – er lles yr eglwys. Yr eglwys ydy ei gorff e – mae’n llawn ohono fe sy’n llenwi’r bydysawd cyfan â’i bresenoldeb.
Darllen Effesiaid 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Effesiaid 1:19-23
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos