Mae amser wedi’i bennu i bopeth, amser penodol i bopeth sy’n digwydd yn y byd: amser i gael eich geni ac amser i farw, amser i blannu ac amser i godi beth blannwyd; amser i ladd ac amser i iacháu, amser i chwalu rhywbeth ac amser i adeiladu; amser i wylo ac amser i chwerthin, amser i alaru ac amser i ddawnsio; amser i daflu cerrig i ffwrdd ac amser i gasglu cerrig, amser i gofleidio ac amser i beidio cofleidio; amser i chwilio ac amser i dderbyn fod rhywbeth ar goll, amser i gadw rhywbeth ac amser i daflu i ffwrdd; amser i rwygo ac amser i bwytho, amser i gadw’n dawel ac amser i siarad; amser i garu ac amser i gasáu; amser i ryfel ac amser i heddwch. Felly, beth mae’r gweithiwr yn ei ennill ar ôl ei holl ymdrech? Dw i wedi ystyried yr holl bethau mae Duw wedi’u rhoi i bobl eu gwneud: Mae Duw’n gwneud i bopeth ddigwydd yn berffaith ar yr amser iawn. Mae hefyd wedi gwneud pobl yn ymwybodol o’r tragwyddol, ond dydy pobl ddim yn gallu darganfod popeth mae Duw’n bwriadu ei wneud yn ystod eu bywydau. Felly des i’r casgliad mai’r peth gorau all pobl ei wneud ydy bod yn hapus a mwynhau eu hunain tra byddan nhw byw.
Darllen Pregethwr 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Pregethwr 3:1-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos