Pregethwr 10
10
1Mae pryfed marw’n gwneud i bersawr ddrewi,
ac mae ychydig ffolineb yn gallu troi’r fantol yn erbyn doethineb mawr.
2Mae gogwydd y doeth at y da,
ond mae’r ffŵl yn dewis y drwg.
3Mae’r ffordd mae’r ffŵl yn ymddwyn
yn dangos i bawb ei fod yn dwpsyn!
4Pan mae’r llywodraethwr wedi gwylltio gyda ti, paid symud;
wrth i ti beidio cynhyrfu bydd ei dymer e’n tawelu.
5Dyma beth ofnadwy arall dw i wedi’i weld –
camgymeriad mae llywodraethwr yn gallu ei wneud:
6Ffyliaid yn cael eu gosod mewn safle o awdurdod,
a phobl fonheddig yn cael eu hunain ar y gwaelod.
7Dw i wedi gweld caethweision ar gefn ceffylau
a thywysogion yn cerdded ar droed fel gweision.
8Gall rhywun sy’n cloddio twll syrthio i mewn iddo,
a’r un sy’n torri drwy wal gerrig gael ei frathu gan neidr.
9Gall gweithiwr mewn chwarel gael ei anafu gan y meini,
a’r un sy’n hollti coed gael niwed gan y coed.
10Os nad oes min ar y fwyell, os na chafodd ei hogi,
rhaid i rywun ddefnyddio mwy o egni.
Mae doethineb bob amser yn helpu!
11Os ydy neidr yn brathu cyn cael ei swyno,
mae’r swynwr wedi methu!
12Mae geiriau’r doeth yn ennill ffafr,
ond mae’r ffŵl yn dinistrio’i hun gyda’i eiriau.
13Mae’n dechrau drwy siarad dwli,
ac yn darfod drwy ddweud pethau hollol wallgof.
14Mae’r ffŵl yn siarad gormod!
Does neb yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd,
hyd yn oed pan mae ar fin digwydd. Pwy sy’n gallu dweud?
15Mae gwaith yn blino’r ffŵl yn lân,
dydy e byth yn gwybod ble mae e’n mynd.
16Gwae’r wlad sydd â brenin plentynnaidd,
a’i thywysogion yn dechrau gwledda’n gynnar yn y bore!
17Ond mae’n braf ar bobl sydd â’u brenin yn gallu rheoli,
a’u tywysogion yn gwybod pryd mae’n iawn i wledda
– dan reolaeth, ac nid i feddwi!
18Mae to sy’n syrthio yn ganlyniad diogi;
mae’n gollwng dŵr am fod dim wedi’i wneud.
19Mae bwyd yn cael ei baratoi i’w fwynhau,
ac mae gwin yn gwneud bywyd yn llon,
ond wrth gwrs arian ydy’r ateb i bopeth!
20Paid hyd yn oed meddwl beirniadu’r brenin,
na melltithio pobl gyfoethog yn dy ystafell wely.
Gallai aderyn bach ddweud wrth eraill,
neu ailadrodd beth ddwedaist ti.
Dewis Presennol:
Pregethwr 10: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023