Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 34

34
Moses yn marw
1Yna dyma Moses yn mynd o wastatir Moab i ben Mynydd Nebo, ac i gopa Pisga, sydd gyferbyn â Jericho. Dangosodd yr ARGLWYDD y wlad gyfan iddo – o Gilead i Dan, 2tir Nafftali i gyd, Effraim a Manasse, tir Jwda i gyd yr holl ffordd draw i’r môr, 3y Negef a’r gwastatir o ddyffryn Jericho (tref y coed palmwydd), yr holl ffordd i Soar. 4Yna meddai’r ARGLWYDD wrtho, “Dyma’r wlad wnes i ei haddo i Abraham, Isaac a Jacob pan ddwedais, ‘Dw i’n mynd i’w rhoi hi i’ch disgynyddion chi.’ Dw i wedi gadael i ti ei gweld, ond dwyt ti ddim yn mynd i gael croesi drosodd yno.”
5Felly dyma Moses, gwas yr ARGLWYDD, yn marw yno yn Moab, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. 6Cafodd ei gladdu yng ngwlad Moab wrth ymyl Beth-peor, ond does neb yn gwybod yn union yn lle hyd heddiw. 7Roedd Moses yn 120 oed pan fuodd farw, ond roedd yn dal i weld yn glir, ac mor gryf ag erioed. 8Buodd pobl Israel yn galaru ar ôl Moses ar wastatir Moab am fis cyfan. Yna daeth y cyfnod o alar i ben.
9Cyn i Moses farw, roedd e wedi gosod ei ddwylo ar Josua fab Nwn, ac roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud Josua yn berson doeth iawn. Roedd pobl Israel yn gwrando arno ac yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
Teyrnged i Moses
10Fuodd yna erioed broffwyd arall tebyg i Moses yn Israel – roedd Duw yn delio gydag e wyneb yn wyneb. 11Gwnaeth bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi’i anfon i’r Aifft i’w wneud. Gwnaeth wyrthiau rhyfeddol yn erbyn y Pharo a’i swyddogion, a phawb arall drwy’r wlad. 12Roedd Moses wedi dangos nerth mawr a gwneud pethau rhyfeddol o flaen pobl Israel i gyd.

Dewis Presennol:

Deuteronomium 34: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda