Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 23

23
Gwahardd o gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD
1Dydy dyn sydd â’i geilliau wedi’u niweidio neu ei bidyn wedi’i dorri i ffwrdd ddim i gael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD.
2Dydy dyn gafodd ei eni tu allan i briodas ddilys ddim yn cael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD. (Na disgynyddion y person hwnnw chwaith, am byth.#23:2,3 Hebraeg, “am ddeg cenhedlaeth wedyn”.)
3Dydy pobl Ammon a Moab ddim i gael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD. (Na’u disgynyddion nhw chwaith, am byth.)
4Pan ddaethoch chi allan o’r Aifft, roedden nhw wedi gwrthod rhoi dŵr a bwyd i chi. A dyma nhw hefyd yn talu Balaam fab Beor o Pethor yn Mesopotamia#23:4 Hebraeg, Aram-naharaim. i’ch melltithio chi. 5Ond dyma’r ARGLWYDD eich Duw yn gwrthod gwrando arno, ac yn troi’r felltith yn fendith! Mae’r ARGLWYDD eich Duw yn eich caru chi. 6Felly peidiwch byth gwneud unrhyw beth i helpu Ammon a Moab i lwyddo a ffynnu.
7“Ond mae pobl Edom yn perthyn i chi, felly rhaid i chi beidio’u ffieiddio nhw. A pheidiwch ffieiddio pobl yr Aifft, gan eich bod wedi byw fel mewnfudwr yn eu gwlad nhw. 8Gall plant eu plant berthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD.
Cadw’r gwersyll milwrol yn lân
9Pan fyddwch chi’n mynd allan i ymladd yn erbyn eich gelynion, cadwch draw oddi wrth unrhyw beth sydd ddim yn lân.
10Er enghraifft, os ydy dyn yn gollwng ei had yn ei gwsg, mae’n aflan, a rhaid iddo adael y gwersyll, ac aros allan drwy’r dydd. 11Yna, gyda’r nos, rhaid iddo olchi’i hun â dŵr. A bydd yn gallu mynd yn ôl i’r gwersyll ar ôl i’r haul fachlud.
12Rhaid trefnu lle tu allan i’r gwersyll i’r dynion fynd i’r tŷ bach. 13Rhaid i ti fynd â rhaw gyda ti i wneud twll, a gorchuddio dy garthion gyda phridd.
14Mae’r gwersyll i’w gadw’n lân. Mae’r ARGLWYDD eich Duw yn cerdded o gwmpas y gwersyll; mae e gyda chi i’ch achub a’ch galluogi chi i ennill y frwydr. Does gynnoch chi ddim eisiau iddo fe weld rhywbeth afiach, a throi cefn arnoch chi.
Cyfreithiau eraill
15Os ydy caethwas o wlad arall wedi dianc i wlad Israel, peidiwch mynd ag e’n ôl i’w feistr. 16Mae i gael byw ble bynnag mae e eisiau. Caiff ddewis unrhyw un o’ch pentrefi i fynd i fyw yno. Peidiwch â’i gam-drin a chymryd mantais ohono.
17Ddylai merched a dynion ifanc Israel byth wasanaethu fel puteiniaid teml.#23:17 Wrth addoli duwiau ffrwythlondeb yn y temlau Canaaneaidd, roedd cael rhyw gyda puteiniaid teml i fod i sicrhau cynhaeaf da a bod eu hanifeiliaid yn cenhedlu rhai bach.
18Paid byth dod â thâl putain neu gyflog puteiniwr i deml yr ARGLWYDD dy Dduw er mwyn cadw addewid. Mae’r ddau beth yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
19Peidiwch codi llog ar fenthyciad i gyd-Israeliaid – llog ar arian, ar fwyd, nac unrhyw beth arall sydd wedi’i fenthyg. 20Cewch godi llog ar fenthyciad i bobl sydd ddim yn Israeliaid, ond peidiwch gwneud hynny wrth fenthyg i’ch pobl eich hunain. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn bendithio popeth wnewch chi yn y wlad dych chi ar fin ei chymryd, os byddwch chi’n ufudd.
21Pan fyddwch chi’n gwneud adduned i’r ARGLWYDD eich Duw, peidiwch oedi cyn ei chyflawni, neu byddwch chi’n cael eich dal yn gyfrifol ganddo. 22Mae’n well peidio gwneud adduned yn y lle cyntaf. 23Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cadw’ch adduned, beth bynnag oedd yr adduned honno. Er enghraifft, os gwnaethoch chi addo rhoi rhywbeth iddo yn offrwm gwirfoddol.
24Os ydych chi’n mynd drwy winllan rhywun arall, cewch fwyta faint fynnoch chi o rawnwin, ond peidiwch mynd â dim i ffwrdd mewn basged.
25Os ydych chi’n mynd drwy gae ŷd rhywun, cewch bigo’r tywysennau gyda’ch llaw, ond peidiwch defnyddio cryman i gymryd peth o’r cnwd.

Dewis Presennol:

Deuteronomium 23: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda