Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Colosiaid 3:5-15

Colosiaid 3:5-15 BNET

Felly lladdwch y pethau drwg, daearol sydd ynoch chi: anfoesoldeb rhywiol, budreddi, pob chwant, a phob tuedd i wneud drwg a bod yn hunanol – addoli eilun-dduwiau ydy peth felly! Pethau felly sy’n gwneud Duw yn ddig, a bydd yn dod i gosbi pawb sy’n anufudd iddo. Dyna sut roeddech chi’n ymddwyn o’r blaen. Ond bellach rhaid i chi gael gwared â nhw: gwylltio a cholli tymer, bod yn faleisus, hel straeon cas a dweud pethau anweddus. Rhaid i chi stopio dweud celwydd wrth eich gilydd, am eich bod wedi rhoi heibio’r hen fywyd a’i ffyrdd ac wedi gwisgo’r bywyd newydd. Dyma’r ddynoliaeth newydd sy’n cael ei newid i fod yr un fath â’r Crëwr ei hun, ac sy’n dod i nabod Duw yn llawn. Lle mae hyn yn digwydd does dim gwahaniaeth rhwng Iddew a rhywun o genedl arall, neu rhwng cael eich enwaedu neu ddim; does neb yn cael ei ddiystyru am ei fod yn ‘farbariad di-addysg’ neu’n ‘anwariad gwyllt’; does dim gwahaniaeth rhwng y caethwas a’r dinesydd rhydd. Yr unig beth sy’n cyfri ydy’r Meseia, ac mae e ym mhob un ohonon ni sy’n credu. Mae Duw wedi’ch dewis chi iddo’i hun ac wedi’ch caru chi’n fawr, felly dangoswch chithau dosturi at bobl eraill, a bod yn garedig, yn ostyngedig, yn addfwyn ac yn amyneddgar. Byddwch yn oddefgar, a maddau i eraill pan dych chi’n meddwl eu bod nhw ar fai. Maddeuwch chi i bobl eraill yn union fel mae’r Arglwydd wedi maddau i chi. A gwisgwch gariad dros y cwbl i gyd – mae cariad yn clymu’r cwbl yn berffaith gyda’i gilydd. Gadewch i’r heddwch mae’r Meseia’n ei greu rhyngoch chi gadw trefn arnoch chi. Mae Duw wedi’ch galw chi at eich gilydd i fyw fel un corff ac i brofi realiti’r heddwch hwnnw. A byddwch yn ddiolchgar.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Colosiaid 3:5-15