Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 9:1-10

Amos 9:1-10 BNET

Gwelais fy Meistr yn sefyll wrth yr allor, ac meddai fel hyn: “Taro ben y colofnau nes bydd y sylfeini’n ysgwyd! Bydd y cwbl yn syrthio ar ben yr addolwyr, A bydda i’n lladd pawb sydd ar ôl mewn rhyfel. Fydd neb o gwbl yn llwyddo i ddianc! Hyd yn oed tasen nhw’n cloddio i lawr i Fyd y Meirw, byddwn i’n dal i gael gafael ynddyn nhw! A thasen nhw’n dringo i fyny i’r nefoedd, byddwn i’n eu tynnu nhw i lawr oddi yno. Petaen nhw’n mynd i guddio ar ben Mynydd Carmel, byddwn i’n dod o hyd iddyn nhw, ac yn eu dal nhw. A thasen nhw’n cuddio o ngolwg i ar waelod y môr, byddwn i’n cael y Sarff sydd yno i’w brathu nhw. Petai eu gelynion nhw yn eu gyrru nhw i’r gaethglud, byddwn i’n gorchymyn i’r cleddyf eu lladd nhw yno. Dw i’n hollol benderfynol o wneud drwg iddyn nhw ac nid da.” Fy Meistr, yr ARGLWYDD, y Duw hollbwerus, ydy’r un sy’n cyffwrdd y ddaear ac mae’n toddi; a bydd pawb sy’n byw arni yn galaru. Bydd y ddaear gyfan yn codi fel afon Nîl; yn chwyddo ac yna’n suddo fel yr afon yn yr Aifft. Mae e’n adeiladu cartref iddo’i hun yn y nefoedd ac yn gosod sylfeini ei stordy ar y ddaear. Mae’n galw’r dŵr o’r môr ac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir –yr ARGLWYDD ydy ei enw e! “I mi, bobl Israel, dych chi ddim gwahanol i bobl dwyrain Affrica.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Mae’n wir fy mod i wedi arwain Israel o wlad yr Aifft, ond fi hefyd ddaeth â’r Philistiaid o ynys Creta a’r Syriaid o Cir.” Gwyliwch chi! Mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, yn cadw golwg ar y wlad bechadurus. “Dw i’n mynd i’w dinistrio hi oddi ar wyneb y ddaear! Ond wna i ddim dinistrio pobl Jacob yn llwyr,” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Gwyliwch chi! Bydda i’n rhoi’r gorchymyn ac yn ysgwyd pobl Israel, sydd yng nghanol y cenhedloedd, fel mae rhywun yn ysgwyd ŷd mewn gogr, a fydd dim cerrig mân yn disgyn trwodd. Bydd fy mhobl sydd wedi pechu yn cael eu lladd yn y rhyfel, sef y rhai hynny sy’n dweud mor siŵr, ‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i ni, na hyd yn oed yn dod yn agos aton ni.’