Un diwrnod, am dri o’r gloch y p’nawn, roedd Pedr ac Ioan ar eu ffordd i’r deml i’r cyfarfod gweddi. Wrth y fynedfa sy’n cael ei galw ‘Y Fynedfa Hardd’ roedd dyn oedd ddim wedi gallu cerdded erioed. Roedd yn cael ei gario yno bob dydd, i gardota gan y bobl oedd yn mynd a dod i’r deml. Pan oedd Pedr ac Ioan yn pasio heibio gofynnodd iddyn nhw am arian. Dyma’r ddau yn edrych arno, a dyma Pedr yn dweud, “Edrych arnon ni.” Edrychodd y dyn arnyn nhw, gan feddwl ei fod yn mynd i gael rhywbeth ganddyn nhw. “Does gen i ddim arian i’w roi i ti,” meddai Pedr, “ond cei di beth sydd gen i i’w roi. Dw i’n dweud hyn gydag awdurdod Iesu y Meseia o Nasareth – cod ar dy draed a cherdda.” Yna gafaelodd yn llaw dde y dyn a’i helpu i godi ar ei draed. Cryfhaodd traed a choesau’r dyn yr eiliad honno, a dyma fe’n neidio ar ei draed a dechrau cerdded! Aeth i mewn i’r deml gyda nhw, yn neidio ac yn moli Duw. Roedd pawb yn ei weld yn cerdded ac yn moli Duw, ac yn sylweddoli mai hwn oedd y dyn oedd yn arfer eistedd i gardota wrth ‘Fynedfa Hardd’ y deml. Roedden nhw wedi’u syfrdanu’n llwyr o achos beth oedd wedi digwydd iddo.
Darllen Actau 3
Gwranda ar Actau 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau 3:1-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos