Ar ddiwrnod dathlu Gŵyl y Pentecost roedd pawb gyda’i gilydd eto. Ac yn sydyn dyma nhw’n clywed sŵn o’r awyr, fel gwynt cryf yn chwythu drwy’r ystafell lle roedden nhw’n cyfarfod. Ac wedyn roedd fel petai rhywbeth tebyg i fflamau tân yn dod i lawr ac yn gorffwys ar ben pob un ohonyn nhw. Dyma pawb oedd yno yn cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân ac yn dechrau siarad mewn ieithoedd eraill. Yr Ysbryd oedd yn eu galluogi nhw i wneud hynny.
Bryd hynny roedd Iddewon crefyddol o wahanol wledydd wedi dod i aros yn Jerwsalem. Clywon nhw’r sŵn hefyd, ac roedd tyrfa fawr wedi casglu at ei gilydd i weld beth oedd yn digwydd. Roedden nhw wedi drysu, am fod pob un ohonyn nhw yn clywed ei iaith ei hun yn cael ei siarad. Roedd y peth yn syfrdanol! “Onid o Galilea mae’r bobl yma’n dod?” medden nhw. “Sut maen nhw’n gallu siarad ein hieithoedd ni?” (Roedd Parthiaid yno, a Mediaid, Elamitiaid, pobl o Mesopotamia, Jwdea a Capadocia, Pontus ac Asia, Phrygia, Pamffilia, yr Aifft, a’r rhan o Libia sydd wrth ymyl Cyrene; pobl oedd ar ymweliad o Rufain – rhai yn Iddewon ac eraill yn bobl oedd wedi troi at y grefydd Iddewig – a hefyd Cretiaid ac Arabiaid) “Maen nhw’n siarad ein hieithoedd ni, ac yn dweud am y pethau rhyfeddol mae Duw wedi’u gwneud!” Dyna lle roedden nhw’n sefyll yn syn, heb ddim clem beth oedd yn digwydd. “Beth sy’n mynd ymlaen?” medden nhw.
Ond roedd rhai yno’n gwatwar a dweud, “Maen nhw wedi meddwi!”
Dyma Pedr yn codi ar ei draed i annerch y dyrfa, a’r un ar ddeg arall wrth ei ymyl: “Arweinwyr, bobl Jwdea, a phawb arall sy’n aros yma yn Jerwsalem, gwrandwch yn ofalus – gwna i esbonio i chi beth sy’n digwydd. Dydy’r bobl yma ddim wedi meddwi fel mae rhai ohonoch chi’n dweud. Mae’n rhy gynnar i hynny! Naw o’r gloch y bore ydy hi!
“Na, beth sy’n digwydd ydy beth soniodd y proffwyd Joel amdano:
‘Mae Duw yn dweud: Yn y cyfnod olaf
Bydda i’n tywallt fy ysbryd ar y bobl i gyd.
Bydd eich meibion a’ch merched yn proffwydo,
bydd dynion ifanc yn cael gweledigaethau,
a phobl hŷn yn cael breuddwydion.
Bryd hynny bydda i’n
tywallt fy Ysbryd ar fy ngweision i gyd,
yn ddynion a merched,
a byddan nhw’n proffwydo.
Bydd pethau rhyfeddol yn digwydd yn yr awyr
ac arwyddion gwyrthiol yn digwydd ar y ddaear –
gwaed a thân a mwg yn lledu ym mhobman.
Bydd yr haul yn troi’n dywyll
a’r lleuad yn mynd yn goch fel gwaed
cyn i’r diwrnod mawr, rhyfeddol yna ddod,
sef, Dydd yr Arglwydd.
Bydd pawb sy’n galw ar enw’r Arglwydd
yn cael eu hachub.’
“Bobl Israel, gwrandwch beth dw i’n ddweud: Dangosodd Duw i chi ei fod gyda Iesu o Nasareth – dych chi’n gwybod hynny’n iawn, am fod Duw wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol drwyddo, a phethau eraill oedd yn dangos pwy oedd e. Roedd Duw’n gwybod ac wedi trefnu ymlaen llaw beth fyddai’n digwydd iddo. Gyda help y Rhufeiniaid annuwiol dyma chi’n ei ladd, drwy ei hoelio a’i hongian ar groes. Ond dyma Duw yn ei godi yn ôl yn fyw a’i ollwng yn rhydd o grafangau marwolaeth. Roedd yn amhosib i farwolaeth ddal gafael ynddo!