Wedyn ar ôl eu curo’n ddidrugaredd, dyma nhw’n eu taflu nhw i’r carchar. Cafodd swyddog y carchar orchymyn i’w gwylio nhw’n ofalus, felly rhoddodd y ddau ohonyn nhw yn y gell fwyaf diogel a rhoi eu traed mewn cyffion. Tua hanner nos roedd Paul a Silas wrthi’n gweddïo ac yn canu emynau o fawl, ac roedd y carcharorion eraill i gyd yn gwrando. Yna’n sydyn dyma ddaeargryn mawr yn ysgwyd y carchar i’w sylfeini. Dyma’r drysau i gyd yn agor, a’r cadwyni yn disgyn i ffwrdd oddi ar bawb! Pan ddeffrodd swyddog y carchar a gweld y drysau ar agor, roedd yn meddwl fod y carcharorion wedi dianc. Gafaelodd yn ei gleddyf gan fwriadu lladd ei hun. Ond dyma Paul yn gweiddi, “Paid! Dŷn ni i gyd yma!” Galwodd y swyddog am oleuadau, a rhuthro i mewn i gell Paul a Silas, a syrthio i lawr o’u blaenau yn crynu mewn ofn. Yna aeth a nhw allan a gofyn iddyn nhw, “Beth sydd raid i mi ei wneud i gael fy achub?” Dyma nhw’n ateb, “Credu yn yr Arglwydd Iesu, dyna sut mae cael dy achub – ti a phawb arall yn dy dŷ.” A dyma nhw’n rhannu’r newyddion da am yr Arglwydd Iesu gyda’r swyddog a phawb arall yn ei dŷ. Aeth y swyddog â nhw yng nghanol y nos i lanhau eu briwiau. Wedyn cafodd e a phawb arall yn ei dŷ eu bedyddio. Yna aeth â nhw i’w gartref a rhoi pryd o fwyd iddyn nhw. Roedd pawb yn ei dŷ mor hapus eu bod nhw wedi credu yn Nuw.
Darllen Actau 16
Gwranda ar Actau 16
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau 16:23-34
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos