Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Samuel 15

15
Gwrthryfel Absalom
1Beth amser wedyn dyma Absalom yn paratoi cerbyd a cheffylau iddo’i hun, a hanner cant o warchodwyr personol. 2Byddai’n codi’n fore a sefyll ar ochr y ffordd wrth giât y ddinas. Pan oedd unrhyw un yn dod heibio gydag achos cyfreithiol i’w setlo gan y brenin, byddai Absalom yn ei alw draw. Byddai’n gofyn iddo, “Un o ble wyt ti?” Os oedd hwnnw’n dweud ei fod yn perthyn i un o lwythau Israel, 3byddai Absalom yn dweud wrtho, “Gwranda, mae gen ti achos cryf, ond does gan y brenin neb ar gael i wrando arnat ti.” 4Wedyn byddai’n ychwanegu, “Piti na fyddwn ni’n cael fy ngwneud yn farnwr yn y wlad yma! Byddai pawb oedd ag achos ganddo yn gallu dod ata i. Byddwn i’n gwneud yn siŵr eu bod nhw’n cael tegwch.” 5Hefyd, pan fyddai rhywun yn dod ato ac ymgrymu o’i flaen, byddai Absalom yn estyn ei law a’i gofleidio a rhoi cusan iddo. 6Roedd yn gwneud hyn i bawb o Israel oedd yn dod i ofyn am gyfiawnder gan y brenin. A dyna sut wnaeth Absalom ennill cefnogaeth pobl Israel.
7Ar ôl pedair blynedd,#15:7 pedair blynedd Hebraeg, “pedwar deg o flynyddoedd”. dyma Absalom yn gofyn i’r brenin, “Plîs ga i fynd i Hebron i gyflawni adduned wnes i i’r ARGLWYDD? 8Pan oeddwn i’n byw yn Geshwr yn Syria, gwnes i addo ar lw: ‘Os bydd yr ARGLWYDD yn mynd â fi’n ôl i Jerwsalem, gwna i addoli’r ARGLWYDD yn Hebron.’” 9A dyma’r brenin yn ei ateb, “Dos, a bendith arnat ti.” Felly dyma Absalom yn mynd i ffwrdd i Hebron.
10Ond yna dyma Absalom yn anfon negeswyr cudd at lwythau Israel i gyd i ddweud, “Pan fyddwch chi’n clywed sŵn y corn hwrdd,#15:10 corn hwrdd Hebraeg, shoffar. cyhoeddwch: ‘Mae Absalom yn frenin yn Hebron.’” 11Roedd dau gant o ddynion wedi mynd gydag Absalom o Jerwsalem. Roedden nhw wedi cael gwahoddiad ganddo, ac wedi mynd yn gwbl ddiniwed heb wybod dim am ei fwriadau. 12Yna dyma Absalom yn cael Achitoffel, swyddog strategaeth Dafydd, i ddod ato o Gilo (y dre lle roedd e’n byw) i gyflwyno aberthau gydag e. Roedd y cynllwyn yn cryfhau, a nifer y bobl oedd o blaid Absalom yn cynyddu.
Dafydd yn dianc o Jerwsalem
13Daeth neges at Dafydd i ddweud fod pobl Israel wedi troi at Absalom. 14Felly dyma Dafydd yn dweud wrth ei swyddogion yn Jerwsalem, “Rhaid i ni ffoi, neu wnawn ni ddim dianc oddi wrth Absalom. Dewch! Brysiwch i ni adael, rhag iddo’n dal ni a lladd pawb yn y ddinas!” 15Dyma’r swyddogion yn ateb, “Mae dy weision yn barod i wneud beth bynnag mae ein meistr, y brenin, yn ei benderfynu.”
16Felly dyma’r brenin yn gadael, a’i deulu a’i staff i gyd gydag e. Ond gadawodd ddeg o’i gariadon#15:16 gariadon Mae’r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair. i edrych ar ôl y palas. 17Wrth iddo fynd, a’r bobl i gyd yn ei ddilyn, dyma nhw’n aros wrth y Tŷ Pellaf. 18Safodd yno tra oedd ei warchodlu i gyd yn mynd heibio (Cretiaid#15:18 Hebraeg, Cerethiaid, sy’n enw arall ar y Cretiaid. a Pelethiaid)#2 Samuel 8:18 a’r chwe chant o ddynion oedd wedi’i ddilyn o Gath. Wrth iddyn nhw fynd heibio 19dyma’r brenin yn galw ar Itai (oedd o Gath), “Pam ddylet ti ddod gyda ni? Dos yn ôl ac aros gyda’r brenin newydd. Un o’r tu allan wyt ti, yn alltud ac yn bell oddi cartref. 20Dim ond newydd gyrraedd wyt ti. Alla i ddim gwneud i ti grwydro o le i le ar fy ôl i! Dos yn ôl, a dos â dy bobl gyda ti. A boed i’r Duw ffyddlon dy amddiffyn di.” 21Ond dyma Itai yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a’m meistr y brenin yn fyw, bydda i’n mynd ble bynnag fyddi di’n mynd – hyd yn oed os fydd hynny’n golygu marw gyda ti.” 22A dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Dos yn dy flaen, felly.” Ac aeth Itai yn ei flaen gyda’i ddynion i gyd a’u teuluoedd.
23Roedd pawb yn crio’n uchel wrth i’r fyddin fynd heibio. Dyma’r brenin yn croesi Dyffryn Cidron ac aethon nhw i gyd ymlaen i gyfeiriad yr anialwch. 24Roedd Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid yno, a’r Lefiaid yn cario Arch Ymrwymiad Duw. Dyma nhw’n gosod yr Arch i lawr, a wnaethon nhw ddim ei chodi eto nes oedd y bobl i gyd wedi gadael y ddinas. 25Yna dyma’r brenin yn dweud wrth Sadoc, “Dos ag Arch Duw yn ôl i’r ddinas. Os bydd yr ARGLWYDD yn garedig ata i, bydd yn dod â fi’n ôl i’w gweld hi a’i chartref eto. 26Ond os ydy e’n dweud nad ydy e fy eisiau i bellach, dw i’n fodlon iddo wneud beth bynnag mae eisiau gyda mi.”
27Yna dyma’r brenin yn dweud wrth Sadoc yr offeiriad, “Wyt ti’n deall? Dos yn ôl i’r ddinas yn dawel fach, ti ac Abiathar a’ch meibion – Achimaäts, dy fab di, a Jonathan, mab Abiathar. 28Bydda i’n aros wrth y rhydau ar y ffordd i’r anialwch nes bydda i wedi clywed gynnoch chi.” 29Felly dyma Sadoc ac Abiathar yn mynd ag Arch Duw yn ôl i Jerwsalem, ac aros yno.
30Aeth Dafydd yn ei flaen i fyny Mynydd yr Olewydd, yn crio wrth fynd. Roedd yn cuddio’i ben a doedd dim am ei draed. Ac roedd pawb arall oedd gydag e wedi gorchuddio’u pennau ac yn crio hefyd. 31Clywodd Dafydd fod Achitoffel yn un o’r rhai oedd wedi cynllwynio gydag Absalom, dyma fe’n gweddïo, “ARGLWYDD, plîs gwna gyngor Achitoffel yn gyngor gwirion.”
32Wrth i Dafydd gyrraedd copa’r bryn lle roedd pobl yn arfer addoli, dyma Chwshai yr Arciad#15:32 Arciad Roedd yr Arciaid yn perthyn i lwyth Benjamin (gw. Josua 16:2). yn dod i’w gyfarfod, wedi rhwygo’i ddillad a rhoi pridd ar ei ben. 33Dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Os doi di gyda mi, byddi’n faich arna i; 34ond os ei di yn ôl i’r ddinas, dywed wrth Absalom, ‘Dw i am fod yn was i ti, o frenin. Mae’n wir mod i wedi bod yn was i Dafydd dy dad, ond nawr dw i am fod yn was i ti.’ Wedyn byddi’n gallu drysu cyngor Achitoffel. 35Bydd Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid yna gyda ti. Rhanna gyda nhw bopeth fyddi di’n ei glywed yn y palas brenhinol. 36Mae eu meibion gyda nhw hefyd, Achimaäts fab Sadoc, a Jonathan fab Abiathar. Gallwch eu hanfon nhw ata i i ddweud beth sy’n digwydd.”
37Felly dyma Chwshai, ffrind Dafydd, yn cyrraedd Jerwsalem pan oedd Absalom ar fin mynd i mewn i’r ddinas.

Dewis Presennol:

2 Samuel 15: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda