Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 7

7
1A dyma Eliseus yn ei ateb, “Gwranda ar neges yr ARGLWYDD. ‘Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: Yr adeg yma fory, yn y farchnad wrth giât Samaria, bydd un darn arian yn ddigon i brynu sachaid o flawd mân, neu ddwy lond sach o haidd!’” 2A dyma swyddog agosa’r brenin, ei brif gynorthwywr, yn ateb proffwyd Duw. “Hyd yn oed petai’r ARGLWYDD yn agor llifddorau’r awyr iddi lawio ar y ddaear, allai hynny byth digwydd!” Ond dyma Eliseus ateb, “Cei weld y peth â dy lygaid dy hun, ond gei di ddim bwyta dim ohono.”
Byddin Syria wedi gadael
3Tu allan i giât y ddinas roedd pedwar dyn oedd yn dioddef o glefyd heintus ar y croen. Dyma nhw’n dweud wrth ei gilydd, “Pam ydyn ni’n aros yn y fan yma i farw? 4Os awn ni i mewn i’r ddinas, byddwn ni’n marw, achos does yna ddim bwyd yno. Os arhoswn ni yma, dŷn ni’n mynd i farw hefyd. Felly dewch i ni fynd drosodd at fyddin Syria. Falle y gwnân nhw’n lladd ni, ond mae yna bosibilrwydd yn gwnân nhw adael i ni fyw.” 5Felly’r noson honno, dyma nhw’n mynd i wersyll byddin Syria. Ond wrth iddyn nhw gyrraedd cyrion y gwersyll dyma nhw’n sylweddoli fod yna neb yno. 6Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud i fyddin Syria feddwl eu bod yn clywed sŵn byddin enfawr yn dod gyda ceffylau a cherbydau. Roedden nhw’n meddwl fod brenin Israel wedi talu i frenhinoedd yr Hethiaid a’r Aifft i ymosod arnyn nhw. 7Felly roedden nhw wedi dianc gyda’r nos. Roedden nhw wedi gadael eu pebyll, a’u ceffylau a’u hasynnod, a’r gwersyll fel roedd e, a ffoi am eu bywydau.
8Pan ddaeth y dynion oedd yn dioddef o’r clefyd heintus ar y croen at gyrion y gwersyll aethon nhw i mewn i un o’r pebyll a buon nhw’n bwyta ac yfed ynddi. Yna dyma nhw’n cymryd arian, aur a dillad ohoni, a mynd i guddio’r cwbl. Wedyn dyma nhw’n mynd i babell arall, a dwyn o honno hefyd. 9Ond yna dyma nhw’n dweud wrth ei gilydd, “Dydy hyn ddim yn iawn! Mae hi’n ddiwrnod i ddathlu, a dŷn ni wedi dweud dim wrth neb. Allwn ni ddim aros tan y bore; fyddai hynny ddim yn iawn. Dewch, rhaid i ni fynd i ddweud wrthyn nhw yn y palas.” 10Felly dyma nhw’n mynd yn ôl i Samaria a galw ar wylwyr y giatiau, “Dŷn ni wedi bod i wersyll byddin Syria, a doedd yna neb yno o gwbl. Glywon ni’r un siw na miw. Ond roedd y ceffylau a’r asynnod yno wedi’u clymu, a’r pebyll yn dal i sefyll.” 11Yna dyma’r gwylwyr yn pasio’r neges ymlaen i balas y brenin. 12Cododd y brenin o’i wely a dweud wrth ei swyddogion, “Ddweda i wrthoch chi beth mae Syria’n ei wneud. Maen nhw’n gwybod fod newyn yma, ac maen nhw wedi gadael y gwersyll a mynd i guddio i gefn gwlad. Maen nhw’n disgwyl i ni fynd allan i chwilio am fwyd, ac wedyn byddan nhw’n ein dal ni, ac yn dod i mewn i’r ddinas.” 13Ond dyma un o’r swyddogion yn awgrymu, “Gad i ni ddewis pump o’r ceffylau sydd ar ôl, ac anfon dynion allan i weld beth sy’n digwydd. Os cân nhw eu lladd, fydd hynny ddim gwaeth na beth sy’n mynd i ddigwydd i bobl Israel i gyd os arhoswn ni yma – mae hi wedi darfod arnon ni fel mae hi.”
14Felly dyma nhw’n cymryd dau gerbyd rhyfel, a dyma’r brenin anfon dynion ar ôl byddin Syria i weld beth oedd yn digwydd. 15Aethon nhw ar eu holau cyn belled ac afon Iorddonen. (Roedd dillad a thaclau o bob math ar lawr ym mhobman ar y ffordd, wedi’u taflu i ffwrdd gan y Syriaid yn eu brys.) Yna dyma’r sgowtiaid yn mynd yn ôl i ddweud wrth y brenin. 16Wedyn aeth pobl Samaria allan i wersyll byddin Syria a helpu eu hunain i beth bynnag roedden nhw’n dod o hyd iddo. A daeth hi’n wir fod un darn arian yn ddigon i brynu sachaid o flawd mân neu ddwy lond sach o haidd, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
17Roedd y brenin wedi anfon ei brif gynorthwywr i reoli pethau wrth giât y ddinas. Ond wrth i’r dyrfa ruthro allan, cafodd ei sathru dan draed a bu farw. Roedd hyn hefyd wedi digwydd yn union fel roedd Eliseus, proffwyd yr ARGLWYDD, wedi dweud pan oedd y brenin wedi ceisio ei arestio. 18Neges y proffwyd i’r brenin oedd, “Bydd un darn arian yn ddigon i brynu dwy lond sach o haidd neu sachaid o flawd mân! Bydd hyn yn digwydd yr adeg yma fory, yn y farchnad wrth giât Samaria.” 19Ond roedd swyddog agosa’r brenin, ei brif gynorthwywr, wedi ateb proffwyd Duw, “Hyd yn oed petai’r ARGLWYDD yn agor llifddorau’r awyr iddi lawio ar y ddaear, allai hynny byth digwydd!” Ac roedd Eliseus wedi ateb, “Cei weld y peth â dy lygaid dy hun, ond gei di ddim bwyta dim ohono.” 20A dyna’n union oedd wedi digwydd. Roedd e wedi cael ei sathru dan draed a marw wrth giât y ddinas.

Dewis Presennol:

2 Brenhinoedd 7: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda