Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 22

22
Joseia, brenin Jwda
(2 Cronicl 34:1-2,8-11)
1Wyth oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, a bu’n frenin yn Jerwsalem am dri deg un o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Iedida (merch Adaia o Botscath). 2Roedd yn gwneud beth oedd yn plesio’r ARGLWYDD, ac yn dilyn esiampl y Brenin Dafydd, ei hynafiad, heb grwydro oddi wrth hynny o gwbl.
3Pan oedd Joseia wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd, dyma fe’n anfon ei ysgrifennydd, Shaffan (mab Atsaleia ac ŵyr Meshwlam), i deml yr ARGLWYDD. 4Dyma fe’n dweud wrtho, “Dos at Chilceia, yr archoffeiriad. Mae i gyfri’r arian mae’r porthorion wedi’i gasglu gan y bobl pan maen nhw’n dod i’r deml. 5Wedyn mae’r arian i’w roi i’r rhai sy’n goruchwylio’r gwaith ar y deml. Ac mae’r rheiny i dalu’r gweithwyr sy’n gwneud y gwaith atgyweirio – 6sef y seiri coed, adeiladwyr a’r seiri maen – ac i brynu coed a cherrig wedi’u naddu’n barod i atgyweirio’r deml. 7Does dim rhaid cadw cyfrifon manwl o’r arian fydd yn cael ei roi iddyn nhw, am eu bod yn weithwyr gonest.”
Chilceia yn darganfod sgrôl y Gyfraith
(2 Cronicl 34:14-28)
8Dyma Chilceia, yr archoffeiriad, yn dweud wrth Shaffan yr ysgrifennydd, “Dw i wedi ffeindio sgrôl o’r Gyfraith yn y deml!” A dyma fe’n rhoi’r sgrôl i Shaffan, iddo ei darllen. 9Yna dyma Shaffan yn mynd yn ôl i roi adroddiad i’r brenin: “Mae dy weision wedi cyfri’r arian oedd yn y deml, ac wedi’i drosglwyddo i’r dynion sy’n goruchwylio’r gwaith ar y deml.” 10Yna meddai, “Mae Chilceia’r offeiriad wedi rhoi sgrôl i mi.” A dyma fe’n ei darllen i’r brenin.
11Wedi iddo glywed beth roedd sgrôl y Gyfraith yn ei ddweud, dyma’r brenin yn rhwygo’i ddillad. 12Yna dyma fe’n galw am Chilceia’r offeiriad, Achicam fab Shaffan, Achbor fab Michaia, Shaffan yr ysgrifennydd ac Asaia ei was personol. 13A dyma fe’n dweud wrthyn nhw, “Ewch i holi’r ARGLWYDD, ar fy rhan i a phobl Jwda i gyd, am beth mae’r sgrôl yma’n ddweud. Mae’r ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda ni am fod ein hynafiaid heb wneud beth mae’r sgrôl yma’n ddweud.”
14Felly dyma Chilceia, Achicam, Achbor, Shaffan ac Asaia yn mynd at y broffwydes Hulda. Roedd hi’n wraig i Shalwm (mab Ticfa ac ŵyr Charchas) oedd yn gofalu am y gwisgoedd. Roedd hi’n byw yn Jerwsalem yn y rhan newydd o’r ddinas. A dyma nhw’n dweud yr hanes wrthi. 15Yna dyma hi’n dweud, “Dyma mae’r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dwedwch wrth y dyn wnaeth eich anfon chi ata i, 16mod i’n mynd i ddod â dinistr ofnadwy ar y wlad yma ac ar y bobl sy’n byw yma. Bydd yn union fel mae’r sgrôl mae brenin Jwda wedi’i ddarllen yn dweud. 17Dw i wedi gwylltio’n lân gyda nhw, a does dim yn mynd i newid hynny. Maen nhw wedi bod yn llosgi arogldarth i dduwiau eraill, a’m gwylltio i gyda’r delwau maen nhw wedi’u gwneud.’ 18Ond dwedwch hefyd wrth frenin Jwda, sydd wedi’ch anfon chi i holi’r ARGLWYDD, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud am beth rwyt ti wedi’i glywed: 19“Am dy fod ti wedi teimlo i’r byw ac edifarhau pan glywaist ti fy mod i wedi rhybuddio’r lle yma, ac y byddwn i’n eu gwneud nhw’n esiampl o bobl wedi’u melltithio; am i ti rwygo dy ddillad ac wylo o mlaen i, dw i wedi gwrando,” – yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. 20“Cei di farw a chael dy gladdu mewn heddwch. Fydd dim rhaid i ti fyw i weld y dinistr ofnadwy fydd yn dod ar y wlad yma.”’” A dyma’r dynion yn mynd â’r neges yn ôl i’r brenin.

Dewis Presennol:

2 Brenhinoedd 22: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda