Dyna pam dŷn ni ddim yn digalonni. Hyd yn oed os ydyn ni’n darfod yn gorfforol, dŷn ni’n cael ein cryfhau’n ysbrydol bob dydd. Dydy’n trafferthion presennol ni’n ddim byd o bwys, a fyddan nhw ddim yn para’n hir. Ond maen nhw’n arwain i fendithion tragwyddol yn y pen draw – ysblander sydd y tu hwnt i bob mesur! Felly mae’n sylw ni wedi’i hoelio ar beth sy’n anweledig, dim ar beth welwn ni’n digwydd o’n cwmpas ni. Dydy beth sydd i’w weld ond yn para dros dro, ond mae beth sy’n anweledig yn aros am byth!
Darllen 2 Corinthiaid 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Corinthiaid 4:16-18
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos