Ydyn, dŷn ni fel arogl hyfryd yn cael ei offrymu i Dduw gan y Meseia ei hun. Mae pawb yn ei arogli – y rhai sy’n cael eu hachub a’r rhai sydd ar eu ffordd i ddistryw. Mae fel mwg gwenwynig i’r ail grŵp, ond i’r lleill yn bersawr hyfryd sy’n arwain i fywyd. Pwy sy’n ddigon da i wneud gwaith mor bwysig? Neb mewn gwirionedd! Ond o leia dŷn ni ddim yn pedlera neges Duw i wneud arian, fel mae llawer o rai eraill. Fel arall yn hollol! – dŷn ni’n gwbl ddidwyll. Gweision y Meseia ydyn ni, yn cyhoeddi’r neges mae Duw wedi’i rhoi i ni, ac yn siarad yn gwbl agored o flaen Duw.
Darllen 2 Corinthiaid 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Corinthiaid 2:15-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos