Roedd meibion Eli yn ddynion drwg. Doedden nhw ddim yn nabod yr ARGLWYDD. Dyma beth roedd yr offeiriaid i fod i’w wneud pan oedd rhywun yn dod i offrymu aberth: Wrth iddyn nhw ferwi’r cig, byddai gwas yr offeiriaid yn dod hefo fforch â thair pig iddi yn ei law. Byddai’n gwthio’r fforch i’r badell, y fasged neu’r crochan, a beth bynnag fyddai’r fforch yn ei godi, dyna oedd siâr yr offeiriad. Ond beth oedd yn digwydd yn Seilo pan oedd pobl o bob rhan o Israel yn dod yno oedd hyn: Roedd gwas yr offeiriad yn mynd atyn nhw cyn iddyn nhw hyd yn oed gael cyfle i losgi’r braster, a dweud wrth yr un oedd yn offrymu, “Rho beth o’r cig i’r offeiriad ei rostio. Does ganddo ddim eisiau cig wedi’i ferwi, dim ond cig ffres.” Os oedd rhywun yn ateb, “Gad i’r braster gael ei losgi gynta; cei di gymryd beth bynnag wyt ti’n ei ffansïo wedyn,” byddai’r gwas yn dweud, “Na! rho fe i mi nawr. Os na wnei di, bydda i’n defnyddio grym.” Roedd yr ARGLWYDD yn ystyried hyn yn bechod difrifol. Doedd y dynion ifanc yma’n dangos dim parch at beth oedd i fod yn rhodd i’r ARGLWYDD.
Darllen 1 Samuel 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Samuel 2:12-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos