Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 2:1-26

1 Samuel 2:1-26 BNET

Dyma Hanna yn gweddïo fel hyn: “Dw i mor falch o’r ARGLWYDD. Gallaf godi fy mhen a chwerthin ar fy ngelynion, am fy mod mor hapus dy fod wedi fy achub. Does neb yn sanctaidd fel yr ARGLWYDD. Does neb tebyg i ti; neb sy’n graig fel ein Duw ni. Peidiwch brolio’ch hunain a siarad mor snobyddlyd, oherwydd mae’r ARGLWYDD yn Dduw sy’n gwybod popeth, ac mae’n barnu popeth sy’n cael ei wneud. Bydd grym milwrol y rhai cryfion yn cael ei dorri, ond bydd y rhai sy’n baglu yn cael nerth. Bydd y rhai sydd ar ben eu digon yn gorfod gweithio i fwyta, ond bydd y rhai sy’n llwgu’n cael eu llenwi. Bydd y wraig sy’n methu cael plant yn cael saith, ond yr un sydd â llawer yn llewygu. Yr ARGLWYDD sy’n lladd a rhoi bywyd. Fe sy’n gyrru rhai i’r bedd ac yn achub eraill oddi yno. Yr ARGLWYDD sy’n gwneud rhai yn dlawd ac eraill yn gyfoethog; fe sy’n tynnu rhai i lawr ac yn codi eraill i fyny. Mae e’n codi pobl dlawd o’r baw, a’r rhai sydd mewn angen o’r domen sbwriel i eistedd gyda’r bobl bwysig ar y sedd anrhydedd. Duw sy’n dal colofnau’r ddaear, a fe osododd y byd yn ei le arnyn nhw. Mae’n gofalu am y rhai sy’n ffyddlon iddo, ond bydd y rhai drwg yn darfod yn y tywyllwch, achos dydy pobl ddim yn llwyddo yn eu nerth eu hunain. Bydd gelynion yr ARGLWYDD yn cael eu dryllio, bydd e’n taranu o’r nefoedd yn eu herbyn. Yr ARGLWYDD sy’n barnu’r byd i gyd. Mae’n rhoi grym i’w frenin, a buddugoliaeth i’r un mae wedi’i ddewis.” Yna aeth Elcana adre i Rama. Ond arhosodd y bachgen Samuel i wasanaethu’r ARGLWYDD dan ofal Eli, yr offeiriad. Roedd meibion Eli yn ddynion drwg. Doedden nhw ddim yn nabod yr ARGLWYDD. Dyma beth roedd yr offeiriaid i fod i’w wneud pan oedd rhywun yn dod i offrymu aberth: Wrth iddyn nhw ferwi’r cig, byddai gwas yr offeiriaid yn dod hefo fforch â thair pig iddi yn ei law. Byddai’n gwthio’r fforch i’r badell, y fasged neu’r crochan, a beth bynnag fyddai’r fforch yn ei godi, dyna oedd siâr yr offeiriad. Ond beth oedd yn digwydd yn Seilo pan oedd pobl o bob rhan o Israel yn dod yno oedd hyn: Roedd gwas yr offeiriad yn mynd atyn nhw cyn iddyn nhw hyd yn oed gael cyfle i losgi’r braster, a dweud wrth yr un oedd yn offrymu, “Rho beth o’r cig i’r offeiriad ei rostio. Does ganddo ddim eisiau cig wedi’i ferwi, dim ond cig ffres.” Os oedd rhywun yn ateb, “Gad i’r braster gael ei losgi gynta; cei di gymryd beth bynnag wyt ti’n ei ffansïo wedyn,” byddai’r gwas yn dweud, “Na! rho fe i mi nawr. Os na wnei di, bydda i’n defnyddio grym.” Roedd yr ARGLWYDD yn ystyried hyn yn bechod difrifol. Doedd y dynion ifanc yma’n dangos dim parch at beth oedd i fod yn rhodd i’r ARGLWYDD. Roedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu’r ARGLWYDD, ac yn gwisgo effod o liain main. Roedd ei fam yn arfer gwneud côt fach iddo bob blwyddyn, ac yn dod â hi iddo pan fyddai hi a’i gŵr yn dod i fyny i gyflwyno’u haberth. Byddai Eli yn bendithio Elcana a’i wraig, a dweud, “Boed i’r ARGLWYDD roi plant i ti a Hanna yn lle yr un mae hi wedi’i fenthyg iddo.” Yna bydden nhw’n mynd yn ôl adre. A dyma Duw yn gadael i Hanna gael mwy o blant. Cafodd dri o fechgyn a dwy ferch. Yn y cyfamser, roedd y bachgen Samuel yn tyfu o flaen yr ARGLWYDD. Roedd Eli wedi mynd yn hen iawn. Byddai’n clywed o hyd am bopeth roedd ei feibion yn ei wneud i bobl Israel (ac roedd e’n gwybod hefyd eu bod nhw’n cael rhyw gyda’r merched oedd yn gweini wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw). Byddai’n dweud wrthyn nhw, “Pam dych chi’n bihafio fel yma? Dw i’n clywed gan bawb am y pethau drwg dych chi’n eu gwneud. Rhaid i chi stopio, fechgyn. Dydy’r straeon sy’n mynd o gwmpas amdanoch chi ddim yn dda. Os ydy rhywun yn pechu yn erbyn person arall, gall droi at Dduw am help. Ond os ydy rhywun yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, pwy sy’n mynd i’w helpu?” Ond roedd meibion Eli yn gwrthod gwrando ar eu tad, achos roedd yr ARGLWYDD wedi penderfynu eu lladd nhw. Roedd y bachgen ifanc Samuel yn tyfu ac yn plesio’r ARGLWYDD a phobl.