Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 19

19
Saul yn ceisio lladd Dafydd
1Dyma Saul yn cyfadde i’w fab Jonathan, a’i swyddogion i gyd, ei fod eisiau lladd Dafydd. Ond roedd Jonathan yn hoff iawn iawn o Dafydd. 2Felly dyma fe’n rhybuddio Dafydd, “Mae fy nhad Saul eisiau dy ladd di. Felly gwylia dy hun bore fory. Dos i guddio yn rhywle ac aros yno o’r golwg. 3Gwna i fynd allan a sefyll gyda dad yn agos i lle byddi di’n cuddio. Gwna i siarad ag e ar dy ran di, a gweld beth fydd ei ymateb. Gwna i adael i ti wybod.”
4Felly dyma Jonathan yn siarad ar ran Dafydd gyda Saul, ei dad. Dwedodd wrtho, “Paid gwneud cam â dy was Dafydd, achos dydy e erioed wedi gwneud dim byd yn dy erbyn di. Mae popeth mae e wedi’i wneud wedi bod yn dda i ti. 5Mentrodd ei fywyd i ladd y Philistiad yna, a rhoddodd yr ARGLWYDD fuddugoliaeth fawr i Israel. Roeddet ti’n hapus iawn pan welaist ti hynny. Pam mae’n rhaid i ti bechu drwy dywallt gwaed diniwed – lladd Dafydd am ddim rheswm?” 6Gwrandawodd Saul ar gyngor Jonathan, ac addo ar lw, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, wna i ddim ei ladd e!” 7Felly dyma Jonathan yn galw Dafydd a dweud wrtho beth ddigwyddodd. Aeth ag e at Saul, a chafodd Dafydd weithio iddo fel o’r blaen.
8Roedd rhyfel unwaith eto, a dyma Dafydd yn mynd allan i ymladd y Philistiaid. Trechodd nhw’n llwyr nes iddyn nhw redeg i ffwrdd o’i flaen.
9Yna dyma’r ysbryd drwg oddi wrth yr ARGLWYDD yn dod ar Saul eto. Roedd yn eistedd yn ei dŷ a gwaywffon yn ei law, tra oedd Dafydd yn canu’r delyn. 10A dyma Saul yn trio trywanu Dafydd a’i hoelio i’r wal gyda’i waywffon. Ond llwyddodd Dafydd i’w hosgoi ac aeth y waywffon i’r wal, a rhedodd Dafydd i ffwrdd.
Michal yn achub bywyd Dafydd
Y noson honno 11dyma Saul yn anfon dynion i wylio tŷ Dafydd er mwyn ei ladd yn y bore. Ond roedd Michal, gwraig Dafydd, wedi dweud wrtho, “Os wnei di ddim dianc am dy fywyd heno, byddi wedi marw fory.” 12A dyma Michal yn gollwng Dafydd allan drwy’r ffenest, iddo redeg i ffwrdd a dianc. 13Yna dyma Michal yn rhoi eilun-ddelw teuluol yn y gwely, rhoi carthen o flew geifr wrth ei ben, a rhoi dillad Dafydd drosto. 14Wedyn pan ddaeth dynion Saul i arestio Dafydd, dyma hi’n dweud wrthyn nhw, “Mae e’n sâl.”
15Ond dyma Saul yn anfon y dynion yn ôl i chwilio am Dafydd. “Dewch â fe yma ar ei wely os oes rhaid, i mi gael ei ladd e.” 16Pan aethon nhw yn ôl, dyma nhw’n dod o hyd i’r eilun-ddelw yn y gwely a’r blew gafr lle byddai’r pen. 17“Pam wnest ti fy nhwyllo i fel yma? Ti wedi gadael i’m gelyn i ddianc!” meddai Saul wrth Michal. A dyma hi’n ateb, “Dwedodd wrtho i ‘Well i ti helpu fi i ddianc neu gwna i dy ladd di!’”
18Roedd Dafydd wedi rhedeg i ffwrdd a dianc at Samuel i Rama. Dwedodd wrth Samuel beth oedd Saul wedi bod yn ei wneud iddo. Yna dyma fe a Samuel yn mynd i aros gyda’r gymuned o broffwydi. 19Ond dwedodd rhywun wrth Saul fod Dafydd gyda’r gymuned yn Rama, 20felly dyma Saul yn anfon ei weision yno i arestio Dafydd. Ond pan gyrhaeddon nhw dyma nhw’n gweld grŵp o broffwydi’n proffwydo, a Samuel yn eu harwain nhw. A dyma Ysbryd Duw yn dod ar weision Saul, nes iddyn nhw hefyd ddechrau proffwydo.
21Pan glywodd Saul beth oedd wedi digwydd, dyma fe’n anfon gweision eraill. Ond dechreuodd y rheiny hefyd broffwydo. Yna dyma Saul yn anfon trydydd criw, a dyma’r un peth yn digwydd iddyn nhw hefyd.
22Yna aeth Saul ei hun i Rama. Pan ddaeth at y pydew mawr yn Sechw dyma fe’n holi ble roedd Samuel a Dafydd. “Yn aros gyda’r gymuned o broffwydi yn Rama,” meddai rhywun wrtho. 23Ond pan oedd Saul ar ei ffordd yno daeth Ysbryd Duw arno – ie, arno fe hefyd! Aeth yn ei flaen yn proffwydo yr holl ffordd, nes iddo gyrraedd y gymuned yn Rama. 24Wedyn dyma Saul yn tynnu ei ddillad i ffwrdd a proffwydo o flaen Samuel. Bu’n gorwedd yno’n noeth drwy’r dydd a’r nos. (Dyna pam mae pobl yn dweud, “Ydy Saul hefyd yn un o’r proffwydi?”#1 Samuel 10:11)

Dewis Presennol:

1 Samuel 19: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda