Ond dyma Dafydd yn ei ateb e, “Rwyt ti’n dod yn fy erbyn i gyda gwaywffon a chleddyf, ond dw i’n dod yn dy erbyn di ar ran yr ARGLWYDD hollbwerus! Fe ydy Duw byddin Israel, yr un wyt ti’n ei herio. Heddiw bydd yr ARGLWYDD yn dy roi di yn fy llaw i. Dw i’n mynd i dy ladd di a thorri dy ben di i ffwrdd! Cyrff byddin y Philistiaid fydd yn fwyd i’r adar a’r anifeiliaid gwyllt! Bydd y wlad i gyd yn cael gwybod heddiw fod gan Israel Dduw. A bydd pawb sydd yma yn dod i weld mai nid gyda chleddyf a gwaywffon mae’r ARGLWYDD yn achub. Brwydr yr ARGLWYDD ydy hon. Bydd e’n eich rhoi chi yn ein gafael ni.”
Darllen 1 Samuel 17
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Samuel 17:45-47
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos