Roedd yna rai wedi sylwi ar y diddordeb roedd Dafydd yn ei ddangos, a dyma nhw’n mynd i ddweud wrth Saul; a chafodd Dafydd ei alw ato. Yna dyma Dafydd yn dweud wrth Saul, “Does dim rhaid i neb ddigalonni, syr. Dw i’n barod i ymladd y Philistiad yna!” “Alli di ddim ymladd yn ei erbyn e!” meddai Saul. “Dim ond bachgen wyt ti! Mae e wedi bod yn filwr ar hyd ei oes!” Atebodd Dafydd, “Bugail ydw i, syr, yn gofalu am ddefaid fy nhad. Weithiau bydd llew neu arth yn dod a chymryd oen o’r praidd. Bydda i’n rhedeg ar ei ôl, ei daro i lawr, ac achub yr oen o’i geg. Petai’n ymosod arna i, byddwn i’n gafael ynddo gerfydd ei wddf, ei daro, a’i ladd. Syr, dw i wedi lladd llew ac arth; a bydda i’n gwneud yr un fath i’r pagan o Philistiad yma, am ei fod wedi herio byddin y Duw byw! Bydd yr ARGLWYDD, wnaeth fy achub i rhag y llew a’r arth, yn fy achub i o afael y Philistiad yma hefyd!” Felly dyma Saul yn dweud, “Iawn, dos di. A’r ARGLWYDD fo gyda ti.”
Darllen 1 Samuel 17
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Samuel 17:31-37
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos