Ffrindiau annwyl, dim y byd yma ydy’ch cartref chi. Dych chi fel pobl ddieithr yma . Felly dw i’n apelio arnoch chi i wrthod gwneud beth mae’r chwantau naturiol am i chi ei wneud. Maen nhw’n brwydro yn erbyn beth sydd orau i ni. Dylech chi fyw bywydau da. Wedyn fydd pobl sydd ddim yn credu ddim yn gallu’ch cyhuddo chi o wneud drwg. Yn lle gwneud hynny byddan nhw’n gweld y pethau da dych chi’n eu gwneud ac yn dod i gredu. Byddan nhw’n canmol Duw ar y diwrnod hwnnw pan fydd yn dod atyn nhw. Dylech fod yn atebol i bob awdurdod dynol, yn union fel roedd yr Arglwydd ei hun. Mae hyn yn cynnwys yr ymerawdwr sy’n teyrnasu dros y cwbl, a’r llywodraethwyr sydd wedi’u penodi ganddo i gosbi pobl sy’n gwneud drwg ac i ganmol y rhai sy’n gwneud da. (Mae Duw eisiau i chi wneud daioni i gau cegau’r bobl ffôl sy’n deall dim.) Dych chi’n rhydd, ond peidiwch defnyddio’ch rhyddid fel esgus i wneud drygioni. Dylech chi, sydd ddim ond yn gwasanaethu Duw, ddangos parch at bawb, caru eich cyd-Gristnogion, ofni Duw a pharchu’r ymerawdwr. Dylech chi sy’n gaethweision fod yn atebol i’ch meistri – nid dim ond os ydyn nhw’n feistri da a charedig, ond hyd yn oed os ydyn nhw’n greulon. Mae’n plesio Duw pan dych chi’n penderfynu bod yn barod i ddioddef hyd yn oed pan dych chi’n cael eich cam-drin. Does dim rheswm i ganmol rhywun am fodloni cael ei gosbi os ydy e wedi gwneud drwg. Ond os ydych chi’n fodlon dioddef er eich bod chi wedi gwneud y peth iawn, mae hynny’n plesio Duw. Dyna mae Duw wedi’ch galw chi i’w wneud. A’r esiampl i chi ei dilyn ydy’r Meseia yn dioddef yn eich lle chi: “Wnaeth e ddim pechu, a wnaeth e ddim twyllo neb.” Wnaeth e ddim ateb yn ôl pan oedd pobl yn ei regi a’i sarhau e; wnaeth e ddim bygwth unrhyw un pan oedd e’n dioddef. Yn lle hynny, gadawodd y mater yn nwylo Duw sydd bob amser yn barnu’n deg. Cariodd ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren, er mwyn i ni, a’n pechodau wedi mynd, allu byw i wneud beth sy’n iawn. Dych chi wedi cael eich iacháu am ei fod e wedi’i glwyfo!
Darllen 1 Pedr 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Pedr 2:11-24
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos