Peidiwch caru’r byd a’i bethau. Os dych chi’n caru’r byd, allwch chi ddim bod yn caru’r Tad hefyd. Y cwbl mae’r byd yn ei gynnig ydy blys am bleserau corfforol, chwant am bethau materol, a brolio am beth sydd gynnon ni a beth dŷn ni wedi’i gyflawni. O’r byd mae pethau felly’n dod, ddim oddi wrth y Tad. Mae’r byd hwn a’i chwantau yn dod i ben, ond mae’r sawl sy’n gwneud beth mae Duw eisiau yn byw am byth. Blant annwyl, mae’r awr olaf wedi dod. Dych chi wedi clywed fod gelyn y Meseia i ddod, ac mae llawer sy’n elynion i’r Meseia eisoes wedi dod. Dyna sut dŷn ni’n gwybod fod yr awr olaf wedi dod. Mae’r bobl yma wedi mynd i ffwrdd oddi wrthon ni; doedden nhw ddim wir gyda ni yn y lle cyntaf! Petaen nhw gyda ni, bydden nhw wedi aros gyda ni. Mae’r ffaith eu bod nhw wedi’n gadael ni yn dangos yn glir eu bod nhw ddim gyda ni o gwbl. Ond dych chi’n wahanol – mae’r Un Sanctaidd wedi’ch eneinio chi, a dych chi’n gwybod beth sy’n wir.
Darllen 1 Ioan 2
Gwranda ar 1 Ioan 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Ioan 2:15-20
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos