Yr un sydd wedi bodoli o’r dechrau cyntaf – dŷn ni wedi’i glywed e a’i weld e. Do, dŷn ni wedi edrych arno â’n llygaid ein hunain, a’i gyffwrdd â’n dwylo! Gair y bywyd! Daeth y bywyd ei hun i’r golwg, a dŷn ni wedi’i weld e. Gallwn dystio iddo, a dyma dŷn ni’n ei gyhoeddi i chi – y bywyd tragwyddol oedd gyda’r Tad ac sydd wedi dangos ei hun i ni. Ydyn, dŷn ni’n sôn am rywbeth dŷn ni wedi’i weld a’i glywed. Dŷn ni eisiau i chithau brofi’r wefr gyda ni o rannu yn y berthynas yma gyda Duw y Tad, a gyda’i Fab, Iesu y Meseia. Dŷn ni’n ysgrifennu hyn er mwyn i ni i gyd fod yn wirioneddol hapus. Dyma’r neges mae e wedi’i rhoi i ni, a dyma ni nawr yn ei rhannu gyda chi: Golau ydy Duw; does dim tywyllwch o gwbl ynddo. Felly, os ydyn ni’n honni fod gynnon ni berthynas gyda Duw ac eto’n dal i fyw fel petaen ni yn y tywyllwch, mae’n amlwg ein bod ni’n dweud celwydd. Dŷn ni ddim yn byw yn ffyddlon i’r gwir. Ond os ydyn ni’n byw yn y golau, fel mae Duw yn y golau, dŷn ni’n perthyn i’n gilydd, ac mae gwaed Iesu ei Fab yn ein glanhau ni o bob pechod. Os ydyn ni’n honni ein bod ni heb bechod, dŷn ni’n twyllo’n hunain a dydy’r gwir ddim ynon ni. Ond os gwnawn ni gyffesu ein pechodau, bydd e’n maddau i ni am ein pechodau ac yn ein glanhau ni oddi wrth bopeth drwg, am ei fod e’n cadw ei air ac yn gwneud beth sy’n iawn.
Darllen 1 Ioan 1
Gwranda ar 1 Ioan 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Ioan 1:1-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos