Os mai dim ond ar gyfer y bywyd hwn dŷn ni’n gobeithio yn y Meseia, dŷn ni i’n pitïo’n fwy na neb! Ond, y gwir ydy bod y Meseia wedi’i godi yn ôl yn fyw! Mae e fel y ffrwyth cyntaf i ymddangos adeg y cynhaeaf – fe ydy’r cyntaf o lawer sy’n mynd i gael eu codi. Am fod marwolaeth wedi dod drwy berson dynol, daeth bywyd ar ôl marwolaeth drwy berson dynol hefyd. Mae pawb yn marw am eu bod nhw’n perthyn i Adda, ond mae pawb sy’n perthyn i’r Meseia yn cael bywyd newydd. Dyma’r drefn: y Meseia ydy ffrwyth cynta’r cynhaeaf; wedyn, pan fydd e’n dod yn ôl, bydd pawb sy’n perthyn iddo yn ei ddilyn. Wedyn bydd y diwedd wedi dod – bydd y Meseia’n trosglwyddo’r deyrnas i Dduw y Tad ar ôl dinistrio pob gormeswr, awdurdod a grym drygionus. Rhaid i’r Meseia deyrnasu nes bydd ei holl elynion wedi cael eu sathru dan draed. A’r gelyn olaf i gael ei ddinistrio fydd marwolaeth.
Darllen 1 Corinthiaid 15
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Corinthiaid 15:19-26
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos