Os dw i’n siarad ieithoedd dieithr neu hyd yn oed iaith angylion, heb gariad dw i’n ddim byd ond jar metel swnllyd neu sŵn symbal yn cael ei daro. Falle fod gen i’r ddawn i broffwydo, a’r gallu i blymio’r dirgelion dyfnaf – neu’r wybodaeth i esbonio popeth! Falle fod gen i ddigon o ffydd i ‘symud mynyddoedd’ – ond heb gariad dw i’n dda i ddim. Falle mod i’n fodlon rhannu’r cwbl sydd gen i gyda’r tlodion, neu hyd yn oed yn fodlon marw dros y ffydd – ond heb gariad, dw i’n ennill dim. Mae cariad yn amyneddgar. Mae cariad yn garedig. Dydy cariad ddim yn cenfigennu, ddim yn brolio’i hun, nac yn llawn ohono’i hun. Dydy cariad ddim yn gwneud pethau anweddus, nac yn mynnu ei ffordd ei hun drwy’r adeg. Dydy e ddim yn digio a phwdu, ac mae’n fodlon anghofio pan mae rhywun wedi gwneud cam. Dydy cariad ddim yn mwynhau gweld drygioni – beth sy’n ei wneud e’n llawen ydy’r gwir. Mae cariad bob amser yn amddiffyn; mae bob amser yn credu; bob amser yn gobeithio; bob amser yn dal ati. Fydd cariad byth yn chwalu. Bydd proffwydoliaethau’n dod i ben; y tafodau sy’n siarad ieithoedd dieithr yn tewi; a fydd dim angen geiriau o wybodaeth.
Darllen 1 Corinthiaid 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Corinthiaid 13:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos