Felly mae’r Ysbryd yn rhoi gair o ddoethineb i un person. Mae person arall yn cael gair o wybodaeth, drwy’r un Ysbryd. Mae un arall yn cael ffydd, drwy’r un Ysbryd, ac un arall ddoniau i iacháu, drwy’r un Ysbryd. Wedyn mae rhywun arall yn cael galluoedd gwyrthiol, neu broffwydoliaeth, neu’r gallu i ddweud ble mae’r Ysbryd wir ar waith. Mae un arall yn cael y gallu i siarad ieithoedd dieithr, a rhywun arall y gallu i esbonio beth sy’n cael ei ddweud yn yr ieithoedd hynny. Yr un Ysbryd sydd ar waith drwyddyn nhw i gyd, ac yn penderfynu beth i’w roi i bob un.
Darllen 1 Corinthiaid 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Corinthiaid 12:8-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos