Digwyddodd y pethau hyn i gyd fel esiamplau i’n rhybuddio ni rhag bod eisiau gwneud drwg fel y gwnaethon nhw. Maen nhw’n rhybudd i ni beidio addoli eilun-dduwiau fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw. Yr ysgrifau sanctaidd sy’n dweud: “Eisteddodd y bobl i lawr i wledda ac yfed, a chodi i ymgolli mewn rhialtwch paganaidd.” Maen nhw’n rhybudd i ni beidio bod yn anfoesol yn rhywiol fel rhai ohonyn nhw – gyda’r canlyniad fod dau ddeg tri o filoedd ohonyn nhw wedi marw mewn un diwrnod! Maen nhw’n rhybudd i ni beidio rhoi’r Arglwydd ar brawf, fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw – a chael eu lladd gan nadroedd. Ac maen nhw’n rhybudd i ni beidio cwyno, fel rhai ohonyn nhw – ac angel dinistriol yn dod ac yn eu lladd nhw. Digwyddodd y cwbl, un ar ôl y llall, fel esiamplau i ni. Cawson nhw eu hysgrifennu i lawr i’n rhybuddio ni sy’n byw ar ddiwedd yr oesoedd. Felly, os dych chi’n un o’r rhai sy’n meddwl eich bod yn sefyll yn gadarn, gwyliwch rhag i chi syrthio! Dydy’r temtasiynau dych chi’n eu hwynebu ddim gwahanol i neb arall. Ond mae Duw yn ffyddlon! Fydd e ddim yn gadael i’r temtasiwn fod yn ormod i chi. Yn wir, pan gewch chi’ch temtio, bydd yn dangos ffordd i chi ddianc a pheidio rhoi mewn.
Darllen 1 Corinthiaid 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Corinthiaid 10:6-13
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos