Mae’r neges am y groes yn nonsens llwyr i’r bobl hynny sydd ar y ffordd i ddistryw. Ond i ni sy’n cael ein hachub, dyma’n union lle mae grym Duw i’w weld. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydda i’n dinistrio doethineb dynol; ac yn diystyru eu clyfrwch.” Ble mae’r bobl glyfar? Ble mae athrawon y Gyfraith? Ble mae’r dadleuwyr i gyd? Mae Duw wedi gwneud i ddoethineb dynol edrych yn dwp! Mae Duw mor ddoeth! Wnaeth e ddim gadael i bobl ddefnyddio’u clyfrwch eu hunain i ddod i’w nabod e. Beth wnaeth e oedd defnyddio ‘twpdra’r’ neges dŷn ni’n ei chyhoeddi i achub y rhai sy’n credu. Mae’r Iddewon yn mynnu gweld gwyrthiau syfrdanol i brofi fod y neges yn wir, a’r cwbl mae’r Groegiaid eisiau ydy rhywbeth sy’n swnio’n glyfar. Felly pan dŷn ni’n sôn am y Meseia yn cael ei groeshoelio, mae’r fath syniad yn sarhad i’r Iddewon, ac yn nonsens llwyr i bobl o genhedloedd eraill. Ond i’r rhai mae Duw wedi’u galw i gael eu hachub (yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill) – iddyn nhw, y Meseia sy’n dangos mor bwerus ac mor ddoeth ydy Duw. Mae ‘twpdra’ Duw yn fwy doeth na chlyfrwch pobl, a ‘gwendid’ Duw yn fwy pwerus na chryfder pobl.
Darllen 1 Corinthiaid 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Corinthiaid 1:18-25
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos