1 Cronicl 13
13
Dafydd eisiau symud yr Arch
(2 Samuel 6:1-11)
1Dyma Dafydd yn gofyn am gyngor ei swyddogion milwrol (gan gynnwys capteiniaid yr unedau o fil ac o gant). 2Dwedodd wrth y gynulleidfa gyfan, “Os mai dyna dych chi eisiau, ac os ydy’r ARGLWYDD ein Duw yn cytuno, gadewch i ni anfon at bawb ym mhob rhan o Israel, ac at yr offeiriaid a’r Lefiaid yn eu trefi, i’w gwahodd nhw ddod i ymuno gyda ni. 3Gadewch i ni symud Arch ein Duw yn ôl yma. Wnaethon ni ddim gofyn am ei arweiniad o gwbl pan oedd Saul yn frenin.” 4A dyma’r gynulleidfa’n cytuno. Roedd pawb yn teimlo mai dyna oedd y peth iawn i’w wneud. 5Felly dyma Dafydd yn galw pobl Israel i gyd at ei gilydd – o afon Shichor yn yr Aifft i Lebo-chamath, er mwyn symud Arch Duw yno o Ciriath-iearîm. 6Dyma Dafydd a phobl Israel i gyd yn mynd i Baäla (sef Ciriath-iearîm) yn Jwda, i nôl Arch Duw. Roedd yr enw ‘Arch Duw’ yn cyfeirio at yr ARGLWYDD sy’n eistedd ar ei orsedd uwchben y cerwbiaid.
7Dyma nhw’n gosod yr Arch ar gert newydd, a’i symud hi o dŷ Abinadab, gydag Wssa ac Achïo yn arwain y cert. 8Roedd Dafydd a phobl Israel i gyd yn dathlu’n llawn hwyl o flaen Duw, ac yn canu i gyfeiliant telynau a nablau, tambwrinau, symbalau ac utgyrn. 9Pan gyrhaeddon nhw lawr dyrnu Cidon, dyma’r ychen yn baglu, a dyma Wssa yn estyn ei law i afael yn yr Arch. 10Roedd yr ARGLWYDD wedi digio gydag Wssa, a dyma fe’n ei daro’n farw am estyn ei law a chyffwrdd yr Arch. Bu farw yn y fan a’r lle o flaen Duw. 11Roedd Dafydd wedi gwylltio fod yr ARGLWYDD wedi ymosod ar Wssa; a dyma fe’n galw’r lle yn Perets-Wssa (sef ‘y ffrwydriad yn erbyn Wssa’). Dyna ydy enw’r lle hyd heddiw. 12Roedd Duw wedi codi ofn ar Dafydd y diwrnod hwnnw. “Sut all Arch Duw ddod ata i?” meddai. 13Felly wnaeth Dafydd ddim mynd â’r Arch adre i Ddinas Dafydd. Aeth â hi i dŷ Obed-edom, dyn o Gath. 14Arhosodd Arch yr ARGLWYDD yn y tŷ gyda theulu Obed-edom am dri mis. A dyma’r ARGLWYDD yn bendithio teulu Obed-edom a phopeth oedd ganddo.
Dewis Presennol:
1 Cronicl 13: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023