Yna yr aethant i fewn i dŷ, ac yno drachefn yr ymgasglodd tyrfa, fel na allai Iesu a’i ddysgyblion gymaint â bwyta. Ei geraint wedi clywed hyn, á aethant allan iddei ddal ef, (canys dywedasant, Y mae efe allan o’i bwyll. A’r Ysgrifenyddion à ddaethent o Gaersalem, á ddywedasant, Y mae efe mewn cyngrair â Beelzebwb, ac yn bwrw allan gythreuliaid, drwy dywysog y cythreuliaid.) Wedi i Iesu eu galw hwynt, efe á ddywedodd wrthynt drwy gyffelybiaethau, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan? Os bydd teyrnas wedi ei rhwygo drwy ymbleidiau, nis gall y deyrnas hòno sefyll. Ac os bydd teulu gwedi ei rwygo drwy ymbleidiau, nis gall y teulu hwnw sefyll. Felly, os yw Satan yn ymladd yn ei erbyn ei hun, a gwedi ymrànu, nis gall efe sefyll, ond y mae yn agos iddei ddiwedd. Nis gall neb, wedi myned i fewn i dŷ y cadarn, ysbeilio ei ddodrefn ef, oddeithr iddo yn gyntaf drechu y cadarn; yna, yn wir, efe á all ysbeilio ei dŷ ef. Yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych, èr bod pob pechod arall mewn dynion yn faddeuadwy, a pha athrodion bynag á draethont; pwybynag á ddywedo athrodiaith yn erbyn yr Ysbryd Glan, ni faddeuir iddo byth, eithr y mae yn agored i gosb dragwyddol. Hyn á ddywedodd efe, am ddarfod iddynt haeru ei fod mewn cyngrair ag ysbryd aflan.