Eithr Iesu á giliodd, gyda ’i ddysgyblion, tua ’r môr, lle y dylynwyd ef gàn dyrfa fawr o Alilëa, o Iuwdëa, o Gaersalem, o Iduwmëa, ac o lànau yr Iorddonen. A’r rhai o diriogaethau Tyrus a Sidon hefyd, wedi clywed pa ryfeddodau á wnaethai efe, á ymgasglasant ato yn dyrfëydd. Yna y perodd efe iddei ddysgyblion geisio cwch yn barod iddo, o herwydd y lliaws rhag iddynt ei lethu ef; oblegid efe á iachâasai lawer, yr hyn á wnaeth i bawb, oedd ag anhwylderau arnynt, wasgu ato i gyfhwrdd ag ef. A’r ysbrydion aflan, pàn welsant ef, á ymgrymasant o’i flaen ef, gàn lefain, Ti yw Mab Duw. Ond efe á orchymynodd yn gaeth iddynt, na wnaent ef yn adnabyddus.
Darllen Ioan Marc 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan Marc 3:7-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos