Ac o’r chwechfed hyd y nawfed awr, bu tywyllwch dros yr holl dir. Yn nghylch y nawfed awr, Iesu á lefodd â llef uchel, gàn ddywedyd, Eli, Eli, lama sabacthani? hyny yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham ym gadewaist? Rhai o’r sawl à safent gerllaw, gwedi clywed hyn, á ddywedasant, Y mae efe yn galw àr Elias. Un o honynt yn ebrwydd á redodd, á ddyg ysbwng, ac á’i mwydodd mewn gwinegr, a gwedi ei rwymo wrth gorsen, á’i rhoddes iddo iddei yfed. Y lleill á ddywedasant, Paid, ni á gawn weled a ddaw Elias iddei waredu ef. Iesu, gwedi llefain drachefn â llef uchel, á roddodd i fyny ei ysbryd.
Darllen Matthew Lefi 27
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Matthew Lefi 27:45-50
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos