Cyn iddo orphen llefaru, Iuwdas, un o’r deuarddeg, á ddaeth gyda thyrfa fawr, wedi eu harfogi â chleddyfau a ffyn, a’u hanfon gàn yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl. A’r bradychwr á roddasai iddynt arwydd, gàn ddywedyd Pa un bynag á gusanwyf, hwnw yw efe! deliwch ef. Ac efe á ddaeth yn uniawn at Iesu, ac á ddywedodd, Hanbych well, Rabbi, ac á’i cusanodd ef. Iesu á atebodd, Gyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant yn mlaen, a chàn osod eu dwylaw àr Iesu, á’i daliasant ef. Ar hyn, un o gymdeithion Iesu gwedi dodi ei law àr ei gleddyf, á’i tỳnodd ef; a chàn daro gwas yr archoffeiriaid, efe á dórodd ei glust ef. Iesu á ddywedodd wrtho, Dod dy gleddyf yn y wain; canys pwybynag á gymero gleddyf á syrth drwy y cleddyf. A wyt ti yn tybied nas gallaf yr awrhon alw àr fy Nhad, yr hwn á anfonai i’m cymhorth fwy na deg a dwy leng o angylion? Ond pe felly, pa fodd y cyflawnid yr Ysgrythyrau, y rhai á fynegant bod yn raid i’r pethau hyn fod? Yna gwedi troi at y dyrfa, efe á ddywedodd, A ydych chwi yn dyfod gyda chleddyfau a ffyn i ’m dal i, fel rhai yn erlid àr ol ysbeiliwr? Yr oeddwn i beunydd yn eistedd yn eich mysg chwi, yn dysgu yn y deml, a ni ddaliasoch fi. Eithr hyn oll á ddygwyddodd, fel y cyflawnid ysgrifeniadau y Proffwydi. Yna yr holl ddysgyblion á’i gadawsant ef, ac á ffoisant.