A hwy á’i gwyliasent ef, ac á osodasant ysbiwyr arno, gàn eu haddysgu hwynt i gymeryd arnynt fod yn ddynion cydwybodol, fel y dalient ef yn ei eiriau, ac y traddodent ef yn meddiant ac awdurdod y rhaglaw. Y rhai hyn á’i cyfarchasant ef gyda ’r holiad hwn, Rabbi, ni á wyddom dy fod yn llefaru ac yn dysgu yn uniawn, ac heb dderbyn wyneb, yn dysgu ffordd Duw yn ffyddlawn. A ydyw yn gyfreithlawn i ni dalu trethi i Gaisar, ai nid yw? Yntau yn canfod eu cyfrwysdra hwy, á atebodd, Paham y mỳnech fy rhwydo i? Dangoswch i mi geiniog. Llun ac argraff pwy sydd arni? Hwythau á atebasant, Yr eiddo Caisar. Yntau á adatebodd, Rhoddwch chwithau, gàn hyny, i Gaisar yr hyn sydd eiddo Caisar, ac i Dduw yr hyn sydd eiddo Duw. Felly nis gallasent ei ddal ef yn ei ymadroddion gèr bron y bobl; am hyny, gán ryfeddu wrth ei ateb ef, hwy á dawsant â son.
Darllen Luwc 20
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luwc 20:20-26
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos