A fel yr oeddynt yn ymdeithio, efe á aeth i bentref, a rhyw wraig, a’i henw Martha, á’i gresawodd ef yn ei thŷ. Yr oedd ganddi chwaer à elwid Mair, yr hon á eisteddodd wrth draed Iesu, gán wrandaw àr ei ymadrodd ef: ond Martha, yr hon oedd yn fawr ei thrafferth yn nghylch gwasanaethu, à ddaeth ato ef, ac á ddywedodd, Feistr, á wyt ti yn gofalu dim am fod fy chwaer yn fy ngadael i fy hun i wasanaethu? Dywed wrthi, gàn hyny, am fy nghynnorthwyo. Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthi, Martha, Martha, gofalus a thrafferthus wyt yn nghylch llawer o bethau. Un peth yn unig sydd angenrheidiol. A Mair á ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddarni.
Darllen Luwc 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luwc 10:38-42
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos