Nid wyf chwaith yn gweddio dros y rhai hyn yn unig, eithr dros y rhai hyny hefyd à gredant ynof fi, drwy eu dysgeidiaeth hwynt; fel y byddont oll yn un; megys yr wyt ti, y Tad, ynof fi, a minnau ynot ti, fel y byddont hwythau un ynom ni, fel y credo y byd mai tydi á’m hanfonaist i; a rhoddi o honot i mi y gogoniant à roddais innau iddynt hwy; fel y byddont un, megys yr ydym ni yn un; myfi ynynt hwy, á thithau ynof fi, fel y perffeithier eu hundeb; a fel y gwypo y byd mai tydi á’m hanfonaist i, a dy fod yn eu caru hwynt, megys yr ydwyt yn fy ngharu i. Y Tad, y rhai à roddaist i mi, yr wyf yn ewyllysio, lle yr wyf fi, fod o honynt hwythau hefyd gyda myfi; fel y gwelont fy ngogoniant à roddaist i mi, oblegid ti á’m ceraist cyn lluniad y byd. Y Tad cyfiawn, èr nad edwyn y byd dydi, mi á’th adwaen; a’r rhai hyn á wyddant bod genyf dy gènadwriaeth di. Ac iddynt hwy yr hysbysais, ac yr hysbysaf, dy enw; fel, a myfi ynynt hwy, y byddont gyfranog o’r cariad â’r hwn y ceraist fi.
Darllen Ioan 17
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 17:20-26
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos