Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 17:6-19

Ioan 17:6-19 CJW

Mi á hysbysais dy enw i’r dynion à roddaist i mi allan o’r byd. Eiddot ti oeddynt; a thi á’u rhoddaist hwynt i mi; a hwy á gadwasant dy air di. Pa bethau bynag á roddaist i mi, y maent yr awrhon yn gwybod mai oddwrthyt ti y daethant, a chyfrànu o honot i mi yr athrawiaeth à gyfrènais innau iddynt hwy. Hwy á’i derbyniasant, gàn wybod yn ddiau fy nyfod allan oddwrthyt ti, a’m bod wedi fy nghenadwriaethu genyt. Drostynt hwy yr wyf fi yn gweddio. Nid dros y byd yr wyf yn gweddio, ond dros y rhai à roddaist i mi; canys eiddot ti ydynt. A’r eiddof fi oll sydd eiddot ti, a’r eiddot ti sydd eiddof fi, a mi á ogoneddwyd ynynt. Nid wyf fi yn aros yn hwy yn y byd; ond y rhai hyn ydynt yn aros yn y byd, a myfi ydwyf yn dyfod atat ti. Dad santaidd, cadw hwy yn dy enw, y rhai à roddaist i mi, fel y byddont un megys ninnau. Tra bum gyda hwynt yn y byd, mi á’u cedwais yn dy enw; y rhai à roddaist i mi á gedwais. Ni chollwyd neb o honynt ond mab y golledigaeth, megys y rhagfynegodd yr ysgrythyr. Ond yr awrhon, a myfi yn dyfod atat ti, yr wyf yn llefaru y pethau hyn yn y byd, fel y byddo eu llawenydd ynof yn gyflawn. Mi á draddodais iddynt dy air di, ac y mae y byd yn eu casâu hwynt, oblegid nad ydynt o’r byd, megys nad wyf finnau o’r byd. Nid wyf yn gweddio ar i ti eu cymeryd hwynt allan o’r byd, ond àr i ti eu cadw hwynt rhag y drwg. O’r byd nid ydynt, megys nad wyf finnau o’r byd. Cysegra hwynt drwy y gwirionedd; dy air yw y gwirionedd. Megys y gwnaethost ti fi yn Apostol i ti i’r byd, felly y gwnaethym innau hwythau yn apostolion i mi i’r byd. A throstynt hwy yr wyf yn fy nghysegru fy hun, fel y byddont hwythau gwedi eu cysegru drwy y gwirionedd.