Ac yr oedd calon ac enaid y lliaws credinwyr yn un: a ni alwai neb ddim à feddai yn eiddo ei hunan; ond yr oedd pob peth yn gyffredin yn eu plith. A’r Apostolion, drwy nerth mawr, á roddasant allan eu tystiolaeth o adgyfodiad yr Arglwydd Iesu: a charedigrwydd mawr oedd yn eu plith hwynt oll. Nid oedd chwaith un anghenus yn eu plith hwy; oblegid cynnifer ag oedd berchen tiroedd neu dai, á’u gwerthasant, ac á ddygasant werth y pethau à werthasid, ac á’i gosodasant wrth draed yr Apostolion; a chyfranwyd i bob un yn ol ei angen.
Darllen Gweithredoedd 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Gweithredoedd 4:32-35
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos