Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd 28:1-15

Gweithredoedd 28:1-15 CJW

A gwedi eu dyfod yn ddiangol i dir, yna y gwybuant mai Melita y gelwid yr ynys. A’r barbariaid á ddangosasant i ni garedigrwydd annghyffredin; oblegid wedi iddynt gynneu tan, hwy á’n dygasant ni oll ato, oherwydd y gwlaw presennol, ac oherwydd yr oerfel. A gwedi i Baul gynnull yn nghyd swp o fanwŷdd, a’u dodi àr y tan, gwiber á ddaeth allan o’r gwres, ac á lynodd wrth ei law ef. A phan welodd y barbariaid y bwystfil yn nghrog wrth ei law ef, hwy á ddywedasant wrth eu gilydd, Llofrudd yn ddiau yw y dyn hwn, yr hwn nis gadawodd cyfiawnder iddo fyw, èr iddo ddianc o’r môr. Yntau, gwedi ysgwyd ymaith y bwystfil i’r tân, ni oddefodd ddim niwed. Ond yr oeddynt hwy yn dysgwyl y chwyddasai, neu y syrthiasai yn ddisymwth yn farw; a gwedi iddynt hirddysgwyl, a gweled nad oedd dim niwed yn dygwydd iddo, hwy á newidiasant eu meddwl ac á ddywedasant mai duw oedd efe. Ac yn nghymydogaeth y lle hwnw, yr oedd tiroedd Pènaeth yr ynys, enw yr hwn oedd Publius; yr hwn, wedi iddo ein derbyn iddei dŷ, á’n harfollodd ni yn garedig dri diwrnod. A dygwyddodd fod tad Publius yn gorwedd yn glaf o dwymyn a gwaedlif: at yr hwn wedi i Baul fyned i fewn, a gweddio, efe á ddododd ei ddwylaw arno ef, ac á’i hiachâodd. Wedi i’r wyrth hon, gàn hyny, gael ei gwneuthur, y lleill hefyd y rhai oedd â heintiau arnynt, yn yr ynys, á ddaethant ato, ac á iachawyd. Y rhai hefyd á’n parchasant ni â llawer o urddas; a phan oeddym yn ymadael, hwy á’n llwythasant ni â phethau angenrheidiol. A gwedi tri mis, ni á ymadawsom mewn llong o Alecsandria, yr hon á auafasai yn yr ynys, arwydd yr hon oedd Castor a Phòlucs. A gwedi ein dyfod i Syracuwsa, ni á arosasom yno dridiau. Oddyno, ni á aethom oddiamgylch, ac á ddaethom gyferbyn â Rhegium. Ac àr ol un diwrnod a’r deheuwynt yn chwythu, ni á ddaethom, mewn deuddydd, i Buteoli; lle y cawsom frodyr, ac y dymunwyd arnom aros gyda hwynt saith niwrnod; a felly ni á aethom i Rufain. Ac oddyno, y brodyr, wedi clywed am ein helynt, á ddaethant i’n cyfarfod cybelled ag Apii Fforum, a’r Tair Tafarn: y rhai, pan welodd Paul, efe á ddiolchodd i Dduw, ac á gymerodd gysur.