Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd 28:16-29

Gweithredoedd 28:16-29 CJW

A phan ddaethom i Rufain, y canwriad á roddes y carcharorion at gadben y llu; eithr cenadwyd i Baul aros o’r neilldu, mewn tŷ o’r eiddo ei hun, gyda milwr oedd yn ei gadw ef. A bu, àr ol tridiau, i Baul alw yn nghyd y rhai oedd bènaf o’r Iuddewon. A gwedi iddynt ddyfod yn nghyd, efe á ddywedodd wrthynt, Frodyr, èr na wnaethym i ddim yn erbyn y bobl, na defodau ein tadau, eto mi á roddwyd yn garcharor, o Gaersalem i ddwylaw y Rhufeiniaid; y rhai, gwedi iddynt fy holi á fỳnasent fy ngollwng yn rydd, am nad oedd dim achos angeu ynof. Ond pan wrthwynebodd yr Iuddewon, gorfu arnaf apelio at Gaisar; nid fel pe bai gènyf ddim i achwyn àr fy nghenedl fy hun. Am yr achos yma, gàn hyny, y dymunais gael eich gweled, ac ymddyddan â chwi: canys o achos gobaith Israel ym rhwymwyd i â’r gadwyn hon. A hwythau á ddywedasant wrtho, Ni dderbyniasom ni lythyrau o Iuwdea yn dy gylch di, a ni fynegodd, a ni ddywedodd neb o’r brodyr à ddaethant oddyno, ddim drwg am danat ti. Ond yr ydym ni yn deisyf cael clywed gènyt ti, beth yr wyt ti yn ei synied; oblegid am yr arblaid hon, y mae yn hysbys i ni fod yn mhob màn ddywedyd yn ei herbyn. A gwedi iddynt bènodi diwrnod iddo, llawer á ddaethant ato iddei letty; i’r rhai yr eglurodd efe, gàn dystiolaethu teyrnas Duw, a’u darbwyllo hwynt am y pethau à berthynent i Iesu; allan o gyfraith Moses, a’r proffwydi, o’r bore hyd yr hwyr. A rhai á ddarbwyllwyd drwy y pethau à ddywedid; a rhai ni chredasant. A chàn annghyttuno â’u gilydd, hwy á ymadawsant; wedi i Baul ddywedyd yr un gair hwn, Yn ddiau, da y llefarodd yr Ysbryd Glan, drwy Isaia y proffwyd, wrth ein tadau ni, pan y dywedodd, “Dos at y bobl hyn a dywed, Gan glywed y clyẅwch, a ni ddeallwch; a chàn weled y gwelwch, a ni chanfyddwch: canys brasawyd calon y bobl hyn, a thrwm y clywant â’u clustiau, a’u llygaid á gauasant, rhag iddynt weled â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’u calon, a dychwelyd, ac i mi eu hiachâu hwynt.” Bydded hysbys i chwi, gàn hyny, anfon iechydwriaeth Duw at y Cenedloedd, a hwy á’i gwrandawant. A gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn, yr Iuddewon á ymadawsant, a chanddynt ddadleuon mawr yn eu plith eu hunain.