A fel yr oedd efe yn amddiffyn ei hun fel hyn, Ffestus á ddywedodd â llef uchel, Paul, yr wyt ti yn anmhwyllo; llawer o ddysg sydd yn dy ỳru di yn ynfyd. Ond efe á atebodd, Nid wyf fi yn anmhwyllo, ardderchocaf Ffestus, ond geiriau gwirionedd ac iawnbwyll yr wyf fi yn eu traethu. Canys y brenin á ŵyr am y pethau hyn, wrth yr hwn hefyd yr wyf fi yn llefaru yn hyf: oherwydd nid wyf yn tybied bod dim o’r pethau hyn yn guddiedig oddwrtho, oblegid nid mewn congl y gwnaed hyn. O frenin Agrippa! a wyt ti yn credu y proffwydi? Mi á wn dy fod yn credu. Yna Agrippa á ddywedodd wrth Baul, Yr wyt ti o fewn ychydig i’m hynnill i fod yn gristion. A Phaul á ddywedodd, Mi á ddymunwn gàn Dduw, fod nid yn unig tydi, ond hefyd pob un à sydd yn fy ngwrandaw heddyw, o fewn ychydig ac yn gwbl oll y cyfryw ag wyf fi, ond y rhwymau hyn. A fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, cyfododd y brenin, a’r rhaglaw, a Bernice, a’r sawl oedd yn eistedd gyda hwynt. A gwedi iddynt fyned o’r neilldu, hwy á lefarasant y naill wrth y llall, gàn ddywedyd, Ni wnaeth y dyn hwn ddim yn haeddu angeu – neu rwymau. Ac Agrippa á ddywedodd wrth Ffestus, Gallesid gollwng y dyn yma yn rydd, oni buasai iddo apelio at Gaisar.
Darllen Gweithredoedd 26
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Gweithredoedd 26:24-32
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos