Yr ydwyf yn fy nhybied fy hun yn ddedwydd, O frenin Agrippa! gàn fy mod i gael amddiffyn fy hun gèr dy fron di heddyw, am yr holl bethau yr achwynir arnaf gàn yr Iuddewon; yn bendifaddeu, gàn dy fod di yn gydnabyddus â’r holl ddefodau a’r dadleuon à sydd yn mhlith yr Iuddewon: o herwydd paham, yr ydwyf yn deisyf arnat fy ngwrandaw i yn ddyoddefgar. Fy muchedd i, o’m mebyd, yr hon oedd o’r dechreuad yn mhlith fy nghenedl yn Nghaersalem, sydd wybyddus i’r Iuddewon oll; y rhai a’m hadwaenent i o’r dechreu, (pe mỳnent dystiolaethu,) mai, yn ol yr arblaid fanylaf o’n crefydd ni, y bum i byw yn Pharisead. Ac yn awr, am obaith yr addewid à wnaed gàn Dduw i’n tadau, yr wyf yn sefyll i’m barnu; yr hon addewid y mae ein deg a dau lwyth ni, gàn addoli Duw yn barâus nos a dydd, yn gobeithio ei chyrhaeddyd: am yr hwn obaith, O frenin Agrippa! yr achwynir arnaf gàn yr Iuddewon. Paham y bernir yn beth anghygoel gènych chwi, y cyfyd Duw y meirw? Minnau, yn wir, á dybiais ynof fy hun y dylaswn wneuthur llawer o bethau yn erbyn enw Iesu o Nasareth. Yr hyn hefyd á wnaethym yn Nghaersalem; a llawer o’r saint á gauais i mewn carcharau, gwedi derbyn awdurdod gàn yr archoffeiriaid. A phan leddid rhai o honynt, mi á roddais fy mhleidlais yn eu herbyn; a chàn eu cosbi hwynt yn fynych yn mhob cynnullfa, mi á’u cymhellais i gablu; a chàn ymwallgofi yn ddirfawr yn eu herbyn, mi á’u herlidiais hyd ddinasoedd dyeithr hefyd. Yn y gorchwyl hwn, a myfi yn myned i Ddamascus, gydag awdurdod a chènadwriaeth oddwrth yr archoffeiriaid, àr hanner dydd, ac àr y ffordd, O frenin! mi á welais oleuni o’r nef, mwy na dysgleirdeb yr haul, yn tywynu o’m hamgylch i, a’r sawl oedd yn ymdaith gyda mi. A gwedi i ni oll syrthio àr y ddaiar, mi á glywais lais yn llefaru wrthyf, ac yn dywedyd yn yr Hebraeg, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i? Caled yw i ti wingo yn erbyn y symylau. A mi á ddywedais, Pwy wyt ti, Arglwydd? Ac efe á ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. Eithr cyfod, a saf àr dy draed; canys i hyn yr ymddangosais i ti, i’th osod di yn weinidog ac yn dyst, o’r pethau à welaist, ac o’r pethau à ddangosaf i ti àr ol hyn: gàn dy waered di oddwrth y bobl, ac oddwrth y Cenedloedd, at y rhai yr ydwyf yn awr yn dy ddanfon di, – i agoryd eu llygaid, iddeu troi o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw; fel y derbyniont faddeuant pechodau, a chyfran yn mysg y rhai à santeiddiwyd, drwy ffydd ynof fi. O’r pryd hwnw, O frenin Agrippa! ni bum anufydd i’r weledigaeth nefol; eithr mi á fynegais, yn gyntaf i’r rhai yn Namascus, ac yn Nghaersalem, a thros holl wlad Iuwdea; ac yna i’r Cenedloedd, fod iddynt ddiwygio, a dychwelyd at Dduw, a gwneuthur gweithredoedd addas i ddiwygiad. O achos y pethau hyn, yr Iuddewon, wedi iddynt fy nal i yn y deml, á geisiasant fy lladd i â’u dwylaw eu hunain. Am hyny, gwedi i mi gael cymhorth gàn Dduw, yr wyf fi yn aros hyd y dydd hwn, gàn dystiolaethu i fychan a mawr, heb ddywedyd dim yn amgen nag á ddywedasai y proffwydi a Moses á ddelai i ben; y byddai y Messia yn ddyoddefwr, – y byddai efe yn gyntaf o adgyfodiad oddwrth y meirw, – y rhoddai efe oleuni i’r bobl, ac i’r Cenedloedd.