Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd 25:1-12

Gweithredoedd 25:1-12 CJW

Ffestus, gàn hyny, gwedi dyfod i’r dalaeth, àr ol tri diwrnod, á aeth i fyny o Gaisarea i Gaersalem; a’r archoffeiriad a’r rhai pènaf yn mhlith yr Iuddewon, á ymddangosasant gèr ei fron ef yn erbyn Paul, ac á ddeisyfasant arno ddanfon am dano ef i Gaersalem; gàn wneuthur cynllwyn iddei ladd ef àr y ffordd. Eithr Ffestus á atebodd, y cedwid Paul yn Nghaisarea, ac y cychwnai efe ei hun yno àr fyrder: am hyny, meddai efe, y sawl o honoch à sydd alluog, aent i waered gyda mi; ac od oes dim drwg yn y dyn hwn, cyhuddant ef. A gwedi iddo aros gyda hwynt dros ddeng niwrnod, efe á aeth i waered i Gaisarea; a thranoeth, wedi eistedd o hono àr y frawdfainc, efe á archodd ddwyn Paul ato. A gwedi iddo ddyfod, yr Iuddewon, à ddaethent i waered o Gaersalem, á safasant o amgylch, gán ddwyn llawer o guhuddiadau trymion yn erbyn Paul, y rhai nis gallent eu profi; ac yntau yn ei amdiffyn ei hun, – Ni throseddais i ddim, nac yn erbyn cyfreithiau yr Iuddewon, nac yn erbyn y deml, nac yn erbyn Caisar. Eithr Ffestus, yn ewyllysio ennill bodd yr Iuddewon, á atebodd Baul ac á ddywedodd, A fỳni di fyned i fyny i Gaersalem, i gael dy farnu yno gèr fy mron i, am y pethau hyn? Ond Paul á ddywedodd, O flaen brawdfainc Caisar yr wyf fi yn sefyll, lle y dylwn gael fy marnu. Ni wnaethym i ddim cam â’r Iuddewon, megys y gwyddost ti yn dda. Canys, yn wir, os gwnaethym i gam, neu os cyflawnais ddim yn haeddu angeu, nid wyf yn gwrthod marw; eithr os nad oes yr un weithred y cyhuddant fi o honi, ni ddichon neb fy rhoddi i fyny èr eu boddio hwy! Yr wyf fi yn apelio at Gaisar. Yna Ffestus, wedi ymddyddan â’r cynghor, á atebodd, A ddarfu i ti apelio at Gaisar? At Gaisar y cai di fyned.