Ac àr y Seibiaeth canlynol, yr holl ddinas agos á ymgasglodd yn nghyd i wrandaw gair Duw. Eithr yr Iuddewon, pan welsant y tyrfëydd, á lanwyd o eiddigedd; ac á wrthwynebasant y pethau à lefarid gàn Baul, gàn wrthddywedyd a chablu. Yna Paul a Barnabas, gyda mawr ryddineb ymadrodd, á ddywedasant, Rhaid oedd llefaru gair Duw wrthych chwi yn gyntaf; ond gàn eich bod yn ei wthio ymaith oddwrthych, ac yn eich barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragwyddol; wele yr ydym yn troi at y Cenedloedd. Canys felly y gorchymynodd yr Arglwydd i ni, gàn ddywedyd, “Mi á’th osodais di yn oleuni i’r Cenedloedd, i fod o honot yn iechydwriaeth hyd eithaf y ddaiar.” A’r Cenedloedd pan glywsant hyn, á lawenychasant, ac á ogoneddasant air yr Arglwydd: a chynnifer ag oedd wedi eu tueddu am fywyd tragwyddol, á gredasant. A gair yr Arglwydd á danwyd drwy yr holl wlad hòno. Eithr yr Iuddewon á annogasant rai gwragedd crefyddol o radd uchel, a phènaethiaid y ddinas; ac á godasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, ac á’u bwriasant hwy allan o’u tiriogaethau. A hwy á ysgwydasant y llwch oddwrth eu traed yn eu herbyn hwynt, ac á ddaethant i Iconium. Eithr y dysgyblion á lanwyd o lawenydd, ac o’r Ysbryd Glan.
Darllen Gweithredoedd 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Gweithredoedd 13:44-52
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos